Unig fab David a Sarah Evans, Penlôn, plwyf Llanbadarn Trefeglwys; ganwyd 20 Tachwedd 1830. Collodd ei dad cyn ei fod yn 2 flwydd oed. Addolai'r teulu yn ysgoldy Pontsaeson neu Bontrhydsaeson. Cyfyng oedd eu hamgylchiadau, ond ni chofiai ef ddechreuad ei flas at ddarllen, gweddïo, a phregethu, er prinned defnyddiau darllen. Yn 1846, daeth ychydig fodd iddo brynu llyfrau trwy godi cerrig at ailadeiladu'r pontydd ar ôl llifeiriant trychinebus yr haf hwnnw. Felly y daeth Geiriadur Charles a Chorff Duwinyddiaeth Paterson i'w feddiant a'i wead. Ar y gynhysgaeth hon, tyfodd fel holwr ysgol Sul, a pheri ei gymell i bregethu, yn 1853. Yna bu'n crynhoi ychydig addysg ysgol yn Aberaeron o dan Morgan David James, Rhiwbwys (a fu farw 1870), ym Mlaenannerch o dan Griffith Davies (1831 - 1896), ac yn y Drenewydd. Derbyniwyd ef i Goleg Trefeca yn 1856 a bu yno bedair blynedd.
Yn 1861, dewiswyd ef yn weinidog ar eglwys Methodistiaid Calfinaidd Abermeurig yn nyffryn Aeron, ac yno y llafuriodd dros weddill ei oes; ordeiniwyd ef yn 1862. Yr oedd yn bregethwr sylweddol heb ddawn boblogaidd, yn Rhyddfrydwr cadarn, yn amaethwr gofalus, ac yn hanesydd a bywgraffydd manwl; rhoes hanner canrif dda o wasanaeth gwerthfawr yn ei gylch ei hun heb esgeuluso cylchoedd ehangach. Bu'n ysgrifennydd cyfarfod misol de Aberteifi am 18 mlynedd, ac yn llywydd cymdeithasfa'r De, 1898-9. Ysgrifennodd lawer i gylchgronau ei enwad, Yr Arweinydd, Y Goleuad, Y Drysorfa, a'r Traethodydd. Bu farw 24 Ionawr 1917, a chladdwyd ym mynwent capel Abermeurig. Yr oedd ei wraig, Eleanor, yn chwaer i Dan Jenkins, Pentrefelin, ysgolfeistr enwog Llanycrwys.
Cyhoeddodd: Yr Offeiriad Methodistaidd (John Williams, Lledrod) (Dolgellau, 1891); Er Cof am y Ganrif. Y Proffwydoliaethau (Dolgellau, 1899 [ 1900 ]) (anerchiad y gadair yng nghymdeithasfa'r De, Hydref 1899); Hanes Methodistiaeth Rhan Ddeheuol Sir Aberteifi, 1735-1900 (Dolgellau, 1904); Byr-gofiant am naw a deugain o weinidogion ymadawedig Sir Aberteifi (Dolgellau, 1894); Yr Ail Fyr-gofiant (19 bywgraffiad) (Dolgellau, 1908); Y Trydydd Byr-gofiant (101 o bregethwyr anordeiniedig, ac wyth gweinidog ychwanegol) (Dolgellau, 1913). Golygodd hefyd Hanes Bywyd y Parch. Thomas Edwards, Cwmystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.