Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd yn Pengelli, plwyf Llangwyryfon, Sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn Ystrad Meurig dan Edward Richard, urddwyd ef gan esgob Tyddewi, 1787, daeth yn gurad i Henry Venn yn Yelling, sir Huntingdon, 1791-6, ac yna yn Eltisley, sir Caergrawnt, 1796-1810. Penodwyd ef i ficeriaeth Tregaron, 20 Medi 1810; Penybryn, 18 Ebrill 1818; Llangeler, 14 Chwefror 1820; a Penybryn ynghyda Betws Ifan a Brongwyn, 30 Hydref 1820. Bu farw 24 Rhagfyr 1831. Mawrygid ei sêl efengylaidd gan brif arweinwyr y mudiad yn Lloegr yn nyddiau Henry Venn; meddai Thomas Jones, Creaton, amdano mewn llythyr at Thomas Charles, Mawrth 1794 : 'He is a charming soul, a bundle of sweet dispositions.' Bu ganddo ran helaeth yn hyrwyddo'r ffordd i gael Beiblau i Gymru, cyn sefydlu Cymdeithas y Beiblau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.