Ganwyd mewn ffermdy o'r enw Llainwen, ger Ffynnon Henri, plwyf Cynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel ac Elizabeth Pugh Evans. Cafodd ei fagu mewn teulu cerddorol. Yn fachgen aeth i wasnaethu mewn siop ddillad yn Llanelli, ac ymunodd â chôr capel Seion o dan arweiniad R. C. Jenkins. Dysgodd sol-ffa yn nosbarth D. W. Lewis, Brynaman, a chynghanedd yn nosbarth Dr. Joseph Parry a gynhelid gan y ddau athro yn Llanelli.
Yn 1887 enillodd ysgoloriaeth agored am dair blynedd yn y Royal College of Music, Llundain, ac oherwydd ei lwyddiant fel efrydydd rhoddwyd blwyddyn ychwanegol iddo o addysg. Meddai lais tenor rhagorol, ond cafodd afiechyd tra yn y coleg, a amharodd ar ei lais tra bu byw. Wedi gorffen ei gwrs yn y coleg, ymsefydlodd yn Abertawe yn athro cerdd a llais. Cyfansoddodd lawer o ganeuon rhagorol. Ei gân gyntaf oedd 'Yr Hen Gerddor,' a dilynwyd hi gan 'Hyd fedd hi gâr yn gywir,' 'Brad Dynrafon,' 'Oleuni Mwyn,' ac eraill. Cyfansoddodd hefyd ddeuawd, 'Y Delyn a'r Crwth,' rhanganau 'O fy Iesu, 'Mhriod Annwyl,' a 'Golch fi,' ac (i leisiau meibion) 'Teyrnged Cariad,' a threfniant o'r 'Delyn Aur.'
Yr oedd yn un o gyfansoddwyr mwyaf gobeithiol Cymru, eithr bu farw yn ddyn ieuanc 31 oed, 3 Chwefror 1897. Claddwyd ef yn y Mumbles.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.