Bu'n glerc plwyf Meifod, a dywedir iddo farw yn yr Elusendy oddeutu 1750. Cynhwyswyd ei gân fwyaf poblogaidd, sef ' Cerdd y Winllan,' ynghyd a dwy gerdd arall o'i eiddo, sef ' Ystyriaeth ar fyrdra oes dyn ' a ' Cerdd ar ymadawiad Pachadur ai Oferedd,' gan Dafydd Jones, Trefriw, yn ei Flodeu-Gerdd, 1759. Ysgrifennai yn ddwys ac yn ddifrifol, yn bennaf ar bynciau diwinyddol. Efe a ddysgodd Salisbury Pryce, ficer Meifod, i ddarllen Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.