Ganwyd 3 Chwefror 1822, yn Cilgynydd, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John Evans, gweinidog eglwys Annibynnol Penygroes, Sir Benfro, a Hebron, Sir Gaerfyrddin. Pan oedd yn ddyn ifanc yn cadw siop ddillad lwyddiannus yn Arberth rhoddai lawer o'i amser i hyrwyddo addysg, ac enillodd gymeradwyaeth R. R. W. Lingen (gweler yr adroddiad ar addysg yng Nghymru, 1847) am ei waith fel ysgrifennydd undeb ysgolion Sul cylch Arberth. Gadawodd ei siop a chychwyn papur Rhyddfrydol wythnosol, The Principality, yn Hwlffordd, 1847. Wedi symud y papur i Gaerdydd, 1848, a chael Evan Jones ('Ieuan Gwynedd') i'w olygu, anghytunwyd ar bolisi addysg ac ymddiswyddodd y golygydd. Ymhen dwy flynedd wedyn bu farw'r papur, a'r golled i Evans yn £5,000. Yna cychwynnodd fisolyn, Y Wawr, a fu farw gyda'r bymthegfed rhifyn. Wedi hynny ysgrifennodd lawer i'r Western Mail, a throi'n Geidwadwr. Ef oedd ysgrifennydd eisteddfod genedlaethol 1883 yng Nghaerdydd. Ychydig cyn ei farw (2 Hydref) cafodd £100 o drysorfa'r Llywodraeth yn gydnabyddiaeth am ei waith llenyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.