FARRINGTON, RICHARD (1702 - 1772), offeiriad a hynafiaethydd

Enw: Richard Farrington
Dyddiad geni: 1702
Dyddiad marw: 1772
Priod: Eleanor Farrington (née Richardson)
Priod: Mary Farrington (née Ellis)
Plentyn: Mary Bridge (née Farrington)
Plentyn: Elisabeth Farrington
Plentyn: Richard Farrington
Plentyn: Roger Farrington
Rhiant: Elisabeth Farrington (née Jones)
Rhiant: Robert Farrington
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Gilbert Williams

Mab Robert Farrington, Caerlleon, ac Elisabeth (Jones), Cefn Ysgwyd, Llechylched, Môn. Yn 1720 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1724; yn ddilynol cymerodd ei M.A. Penodwyd ef yn gurad Gresford, ac yn ddilynol cafodd guradiaeth Bromfield. Yn 1739 cafodd swydd ynglŷn ag eglwys gadeiriol Llanelwy, a dwy flynedd yn ddiweddarach derbyniodd ficeriaeth Llanwnda gyda Llanfaglan, a gwnaeth ei drigfan yn y Dinas. Yn 1742 rhoed iddo reithoriaeth Llangybi, ac 20 mlynedd yn ddiweddarach gwnaed ef yn ganghellor eglwys gadeiriol Bangor. Priododd ddwywaith, (1) Mary, merch Richard Ellis a Mary (Barker), Cheltenham (bu hi farw yn 1750), a (2) Eleanor Richardson, Caer. Bu iddo bedwar o blant o'r briodas gyntaf - Mary, a briododd William Bridge, Eglwys-bach, Elisabeth, Richard (bu farw 1750), a Roger (bu farw yn blentyn). Erys hiliogaeth William a Mary Bridge eto. Yn 1742 cyhoeddodd Farrington gyfrol o bregethau, Twenty Sermons by R. Farrington. Ar gyfrif ei ymroddiad i'w ddyletswyddau enillodd barch mawr ymysg ei blwyfolion, a cheir praw o'i ofal am ei ddeiliaid yn y nifer mawr o ysgolion cylchynol a sicrhaodd i wahanol rannau ei ofalaeth. Ymddiddorodd hefyd yn hynafiaethau sir Gaernarfon, a chydag ef y lletyai Thomas Pennant yn ystod ei ymweliad â'r fro. Ysgrifennodd Farrington dair cyfrol sydd o ddiddordeb hynafiaethol - ' Numismata Dinlleana,' ' The Druid Monuments of Snowdonia,' a ' Celtic Antiquities of Snowden ' - y mae'r cyfrolau hyn mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Trwy ei gysylltiad â theulu Richardson, Caer, daeth Farrington yn gyfrannog ym mwynfeydd copr Drws-y-coed, y Felenrhyd, Nant Conwy, etc. Ym mis Awst 1772 ymddeolodd o'i fywiolaethau yn Sir Gaernarfon, a symudodd i Bath, lle y bu farw 16 Hydref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.