FLEETWOOD, WILLIAM (1656 - 1723), esgob a hynafiaethydd

Enw: William Fleetwood
Dyddiad geni: 1656
Dyddiad marw: 1723
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ar ddydd Calan 1656, a bu farw 4 Awst 1723; y mae ysgrif lawn arno yn y D.N.B. Bu'n esgob Llanelwy 1708-14, ac wedyn yn esgob Ely; yr oedd yn Chwig selog, a dioddefodd am hynny ym mlynyddoedd diwethaf Anne. Fel esgob Llanelwy, yr oedd 'ymhell uwchlaw safonau ei gyfnod'; yn ei siars yn 1710 anogodd ei offeiriaid i bregethu yn Gymraeg. Ymddiddorodd yn hanes yr esgobaeth, ac y mae nodiadau ganddo ar y pwnc hwnnw yn llyfrgell plas Llanelwy; rhoes lawer o help i Browne Willis a hynafiaethwyr eraill; ac yn 1713 cyhoeddodd lyfr, The life and miracles of St. Wenefrede , yn ymosod ar y pererindota i Ffynnon Wenffrewi. Yr oedd yn bregethwr hynod huawdl, a chyhoeddwyd nifer o'i bregethau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.