FOULKES, HUMPHREY (1673 - 1737), clerigwr a hynafiaethwr

Enw: Humphrey Foulkes
Dyddiad geni: 1673
Dyddiad marw: 1737
Rhiant: David Foulkes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

mab David Foulkes o Lannefydd, sir Ddinbych. Graddiodd yn B.A. o Goleg Iesu, Rhydychen, 1695, M.A. 1698, a D.D. 1720. Ordeiniwyd ef yn offeiriad, Ebrill 1700, a chafodd fywoliaeth S. George, sir Ddinbych, 1702. Gwnaed ef yn brebendari Llanfair yn eglwys gadeiriol Llanelwy, 1705, rheithor Marchwiel, sir Ddinbych, 1709-10, a rheithor Llanfor, Sir Feirionnydd, 1713. Ysgrifennodd nifer o draethodau ar wahanol agweddau ar fywyd y Canol Oesoedd yng Nghymru, a gohebai yn fynych ag Edward Lhuyd ar nifer o bynciau hynafiaethol a ieithegol. Bu farw 1737.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.