Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd yng Nghaernarfon, 1610, aer Richard Foxwist a'i wraig Ellen, ferch William Thomas, Aber. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 1628; aeth i Lincoln's Inn, 14 Chwefror 1636, a'i alw at y Bar, 17 Mai 1636; daeth yn 'Bencher,' Lincoln's Inn, 6 Chwefror 1649. Dewiswyd ef yn gofiadur S. Albans yn 1645, yn farnwr y Morlys dros Ogledd Cymru, 1646; bu'n is-farnwr cylchdaith Aberhonddu, 1655-9, a daeth yn 'Judge Advocate' cylchdaith Caer yn 1660. Bu'n aelod seneddol sir Gaernarfon, 1647-8, sir Fôn 1654-5, Abertawe 1659, a St Albans 1660. Bu'n gweithredu o dan y 'Committee for Advance of Money' fel stiward maenorau Brenhinwyr y gafaelwyd yn eu tiroedd. Yr oedd yn gymedrol fel gwleidyddwr, yn bleidiol i'r Ddiffynwriaeth, ac ymddengys iddo ymheddychu â'r Adferiad. Profwyd ewyllys William Foxwist, St. Albans, dyddiedig 1673, y flwyddyn honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.