Cywiriadau

THOMAS (TEULU), Coed Alun ac Aber, Sir Gaernarfon.

Yn Sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau'r teulu, a threiglid eu disgyniad o Lywelyn Foethus. Yn nechrau'r 16eg ganrif pennaeth y teulu ydoedd Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen. Dechreuwyd y cysylltiad ag Arfon pan briododd RHYS, mab Syr William, â Sian, merch Syr John Puleston, Caernarfon. Rhys Thomas oedd siryf Sir Gaernarfon yn 1573-4, a siryf Môn 10 mlynedd cyn hynny. Dygwyd ei fab WILLIAM THOMAS (bu farw 1586), i fyny yn llys y dduges Somerset, a chafodd yr un manteision addysg â mab y dduges - trwy hyn daeth yn gyfarwydd â Lladin, Eidaleg, Sbaeneg, a Saesneg; medrai Gymraeg hefyd ond odid. Priododd Elin, ferch William Gruffydd, Caernarfon, un o feibion Syr William Gruffydd o'r Penrhyn. Bu'n siryf Caernarfon, yn 1580-1, yn aelod seneddol dros y sir yn 1584-5, ac mewn gwasanaeth milwrol yn Iwerddon. Yn 1586 yr oedd yn gapten ar 200 o Gymry a aeth gyda Syr Philip Sidney i'r Iseldiroedd ac yn ysgarmes Zutphen yr un flwyddyn lladdwyd Syr Philip a'r capten William Thomas, a bu arwyl hir ar ôl y capten yn Arfon megis y bu ar ôl Sidney yn Lloegr. Gadawodd y capten naw o blant ar ei ôl - y cwbl dan oed. Ymhen 10 mlynedd ailbriododd ei weddw â'r capten Rhisiart Gwyn, Hirdrefaig. Bu ef farw yn 1618 a hithau yn 1628. Daethai maenol Aber i feddiant y teulu ac ag Aber y cysylltir eu henwau rhagllaw. Gwnaed WILLIAM THOMAS (bu farw 1633), mab y capten, yn farchog ar ddydd coroni Iago I yn 1603, a bu'n siryf Caernarfon yn 1607-8. Trwy ei ymlyniad wrth Syr John Wynn o Wydir daeth i gryn safle o ddylanwad yn y sir am flynyddoedd. Bu farw yn 1633, a dilynwyd ef gan ei fab WILLIAM THOMAS. Enillodd hwn sedd Arfon yn etholiad Tachwedd 1640, a bu'n aelod o'r Senedd Faith hyd oni fwriwyd ef allan gan y gwrthfrenhinwyr oherwydd iddo ymuno â Siarl I yn Rhydychen. Gwnaethai gryn enw iddo'i hun ar bwys rhai areithiau yn y Senedd. Ar ôl yr Adferiad daeth eilwaith yn amlwg ym mywyd y sir. Catrin, ferch yr esgob Richard Parry, oedd ei wraig. Ar ei farwolaeth aeth y stad i ddwylo nai iddo, JOHN, mab ROBERT THOMAS (brawd William Thomas). Ni chynhaliwyd hen fri'r teulu gan yr etifeddion dilynol, ond gwasanaethasant eu bro eu hunain yn deilwng o'u safle. Trwy Robert Thomas aeth y stad i afael JOSEPH THOMAS (bu farw 1708), ac yna i RHYS THOMAS, yr hwn a ddilynwyd gan ei fab WILLIAM THOMAS (siryf Caernarfon, 1746-7); bu farw 1763. Yr etifedd nesaf ydoedd RHYS THOMAS (1746 - 1814), siryf Caernarfon yn 1771. Ar ei ôl daeth RHYS THOMAS ei fab, siryf Caernarfon yn 1831-2. Gan i'r Rhys Thomas olaf hwn (1771 - 1850 farw'n ddi-etifedd, aeth ei stad i ddwylo ei chwaer ELISABETH, priod Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch, Môn, a darfu am y llinach wrywaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

THOMAS (TEULU), Coed Helen (neu Alun) ac Aber, Sir Gaernarfon

Yr oedd RICE THOMAS (bu farw 1577) a osododd sylfeini ffyniant y teulu hwn yn Sir Gaernarfon, yn fab i Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen, Sir Gaerfyrddin, siryf y sir honno yn 1541-2. Priododd Jane, merch Syr John Puleston o Gaernarfon a gweddw Edward Gruffudd o'r Penrhyn, a fuasai farw yn Nulyn yn 1540. Penodwyd ef gan Roger Williams, arolygwr tiroedd y goron yng ngogledd Cymru, i fod yn ddirprwy iddo yn siroedd Môn, Caernarfon, a Meirionnydd. Yn ddiamau bu hyn yn gymorth iddo gael prydles o faenorau gwerthfawr Aber (Sir Gaernarfon) a Chemaes (Môn) yn 1551. Yn 1553 llwyddodd ef a'i wraig i gael y ddwy faenor wedi eu trosglwyddo iddynt hwy eu hunain a'u hetifeddion (Cal. Pat. Rolls, 1553, 121). Ymddengys y cofnod cyntaf amdano fel ustus heddwch yn Sir Gaernarfon yn 1552. Yr oedd yn siryf Môn yn 1563-4 a Sir Gaernarfon yn 1573-4.

Ganwyd WILLIAM THOMAS 1551 - 1586), ei fab a'i aer, yng Nghaernarfon. Fel bachgen bu yng ngwasanaeth Duges Somerset, a dywedir iddo dderbyn ei addysg oddi wrth yr un athrawon â mab y dduges, yr Arglwydd Edward Somerset, ac iddo ddysgu tair iaith, Lladin, Eidaleg a Ffrangeg (Syr John Wynn o Wydir, Memoirs). Yr oedd yn filwr o fri a gwasanaethodd yn Iwerddon ac yn ddiweddarach yn Fflandrys. Gwnaeth ei ewyllys yn 1584 ' by reason I am imployed in her maiesties service in Flaunders ' (P.C.C., Spencer, 2). Dywaid Syr John Wynn ei fod yn gapten ar 200 o wyr gogledd Cymru a aeth i'r Iseldiroedd gydag Iarll Leicester, ac iddo gael ei ladd ym mrwydr Zutphen (1586). Priodasai Ellen, merch William Gruffydd o Gaernarfon, mab Syr William Gruffydd o'r Penrhyn, a bu iddynt 9 o blant. Yr oedd yn ustus heddwch dros Sir Gaernarfon o c. 1575, yn siryf yn 1580-1581, ac yn aelod seneddol dros y sir yn 1574 a 1584. Ym mis Ionawr 1581, prynodd diroedd yn Llyn, a fuasai'n eiddo abaty Enlli, oddi wrth Iarll Leicester. Gadawodd ar ei ôl diroedd yn Sir Gaerfyrddin yn ogystal â'i ystadau ym Môn ac yn Sir Gaernarfon.

Ganwyd ei fab hynaf a'i aer, Syr WILLIAM THOMAS (a urddwyd yn farchog yn 1603) yn 1572, ac addysgwyd ef yng ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen (cofrestrwyd ef 24 Mai 1588, B.A., 28 Ionawr 1592). Bu'n ustus heddwch a dirprwy raglaw Sir Gaernarfon, ac yn siryf yn 1607-8, a phenodwyd ef yn aelod o Gyngor y Gororau y 1617 (Hist. MSS. Comm., 13th Report, App., IV, 254). Yr oedd yn bleidiwr amlwg a chyson i Syr John Wynn o Wydir. Yn 1605 gwnaeth ymgais i feddiannu ' Koydalen ', Caernarfon (a ddaeth yn gartref i'r teulu yn ddiweddarach), a cheisiodd gymorth Syr John Wynn yn y gorchwyl (Cal. Wynn Papers, 343). Yr oedd gan y teulu eisoes diroedd ym mwrdeistref Caernarfon, ac yn y dref honno yr oedd prif blasty Syr William bob amser, er iddo, c. 1600, adeiladu ty newydd ym maenor Aber, ger safle ty hyn, a adeiladesid, yn ôl pob tebyg, gan ei dad neu ei daid. Saif ty Syr William yn Aber, plasty Jacobaidd cymhedrol ei faint â thwr iddo, hyd heddiw. Gelwid ef, o leiaf o 1672 ymlaen, yn Pen-y-bryn. Yn 1609, yn unol â chomisiwn brenhinol er cadarnhau hawliau diffygiol, gorfodwyd Syr William i dalu £56. 13s. 4d. i'r goron am drosglwyddiad maenorau Aber a Chemaes. Bu farw yng Nghaernarfon yn 1634 gan adael gweddw, chwe mab a dwy ferch. Am ryw reswm anhysbys, dietifeddodd ei fab hynaf, John, yn 1618, gan drosglwyddo etifeddiaeth y rhan fwyaf o'r ystad i'w ail fab (P.R.O., C142/534/112, inq. post mortem), ond yn ei ewyllys gadawodd i John hanner y daliad a elwid ' Y Fferme Vowre ' yn maenor Cemaes, a hawl ar diroedd eraill ym Môn a fyddai heb eu gwerthu ar ôl talu cyfrannau'r merched a'r pedwar brawd ieuaf. Cawsai John hyn ar yr amod nad oedd i geisio gwrthwynebu trefniant ei dad o'r ystadau. Penododd Syr William ei wraig, Gaynor, yn unig ysgutor ei ewyllys (P.C.C., 113, Seager).

Etifeddodd yr ail fab, WILLIAM THOMAS, holl ystadau'r teulu yn Sir Gaernarfon, sef maenor Aber ac amryw diroedd ac eiddo yng Nghaernarfon a lleoedd eraill gan gynnwys ' Coed Alen ', a hwyrach diroedd hefyd ym Môn. Erbyn 1618 yr oedd yn briod â Catherine, merch Richard Parry, esgob Llanelwy. Pan fu farw ei dad, yr oedd gan William ddau fab, Richard a Gruffydd. Derbyniwyd ef fel efrydydd yn Gray's Inn ym mlwyddyn ei briodas. Ef oedd y cyntaf o'r teulu i'w gysylltu yn bennaf ag Aber, ac felly rhaid ei fod wedi sefydlu ei gartref ym Mhen-y-Bryn. Bu'n ustus heddwch dros Sir Gaernarfon, ac yn siryf yn 1637-8. Ef oedd yr aelod seneddol dros fwrdeistref Caernarfon yn y Senedd Hir, a chreodd beth cynnwrf drwy ei araith yn erbyn deoniaid a chabidyldai, ac areithiau eraill. Ym mis Gorffennaf 1642, fodd bynnag, ymadawodd i ymuno â'r brenin, ac ym mis Chwefror 1644 difreiniwyd ef gan y Senedd am gefnu ar wasanaeth y Ty, bod yng ngwersyll y brenin a glynu wrth y blaid honno ('adhering to that party'). Yn yr un mis gwobrwywyd ef gan y brenin drwy ei benodi yn was ystafell i'r frenhines (Cal. S.P. Dom, 1644, 14). Gorfodogwyd ei ystadau gan y Senedd. Ym mis Gorffennaf 1650 cyfeiriodd mewn llythyr at yr hyn a ddioddefasai oddi wrth y ddwy blaid, nid yn unig oddi ar y gwrthryfel diwethaf ym Môn, ond am flynyddoedd lawer cyn hynny. Cyfeiriodd hefyd at ei angen dybryd (llawysgrifau Llanfair-Brynodol 150 yn Ll.G.C.). Yn 1651 medrodd gompowndio am £780, ac yn ddiweddarach gostyngwyd y ddirwy i £646. Bu farw ym mis Mawrth 1654 gan adael i'w fab hynaf a'i aer,

RICHARD THOMAS, ystad mewn dyled drom. Aeth y teulu'n ôl yn y byd oherwydd y rhan a gymerasai William Thomas yn y Rhyfel Cartref, ac ni lwyddwyd fyth i adennill y safle cynt. Yr oedd Richard hefyd wedi compowndio yn 1651 am ei ymlyniad wrth y Brenin yn y rhyfel cyntaf a'r ail, pan oedd yn ieuanc yng ngwersyll y brenin. Ymddengys iddo fod bob amser yn brin o arian. Yn 1659 ceir ef yn gofyn i'w fodryb, y Foneddiges Grace Wynn o Wydir, am arian, ac yn cwyno bod ei wraig yn gwrthod rhoi dim iddo (Cal. Wynn Papers, 2208). Priododd ym mis Hydref 1654, Dorothy, merch hynaf Edward Williams o'r Wig. Bu farw yn ddiblant yn gynnar yn 1666. Yn ei ewyllys gofynasai am gael ei gladdu yn eglwys Aber.

Dilynwyd ef gan ei frawd, GRUFFYDD THOMAS, a oedd, fel Richard, yn amlwg yn gyfarwydd â'r angen am arian, tra bu'r ystad yn ei feddiant (P.R.O., C7/339/71). Bu farw yn ddiblant yn 1676. Etifeddwyd yr ystad gan

JOHN THOMAS,

yr etifedd nesaf ar ôl marw Gruffydd Thomas a oedd yn denant am ei oes (ibid.). Ymddengys mai cefnder oedd ef, sef mab hynaf Robert Thomas, ewythr Gruffydd. Priododd Jane, gweddw Gruffydd, c. 1678. Ceir tystiolaeth a awgryma iddo fod yn byw yn Eglwys Gymyn, Sir Gaerfyrddin, cyn etifeddu ystadau teulu Thomas yn Sir Gaernarfon (llawysgrifau Garthewin 2077 yng ngholeg y brifysgol Bangor), ac iddo'i gael ei hun yn brin o arian yn fuan ar ôl etifeddu. Fel canlyniad i'r prinder hwn, bu trafodaeth rhyngddo â theulu Bulkeley, Baron Hill, Biwmaris, yn 1678 ynglyn ag adfowson Aber a thiroedd o fewn y faenor honno (llawysgrifau Baron Hill 3133 yng ngholeg y brifysgol, Bangor). Daeth yr adfowson i feddiant Arglwydd Bulkeley, ac yn 1680 ymddengys iddo gael meddiant hefyd o'r faenor, ond dros dro yn unig, oherwydd yr oedd John Thomas yn sicr yn arglwydd maenor Aber o leiaf o 1686 hyd ei farw. Awgryma'r ffaith fod John Thomas wedi ei benodi yn siryf Sir Gaernarfon am 1693-4, i'r teulu adennill i raddau eu golud cynt. Ymddengys iddo ef, fel Richard a Gruffydd o'i flaen, fyw yn bennaf ym Mhen-y-Bryn, Aber. Yr oedd ganddo fab, William, a gofrestrwyd yng ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 1698 pan oedd yn 18 oed, ond rhaid bod ei fab wedi marw o'i flaen. Pan fu John Thomas farw yn 1705 dilynwyd ef gan ei frawd,

JOSEPH THOMAS, clerigwr Crefydd.

Ar ôl marw John Thomas ymddengys i faenor Aber fyned allan o feddiant teulu Thomas. Erbyn 1715 yr oedd yn ddiamau ym meddiant Richard, is-iarll Bulkeley, Baron Hill. O hynny ymlaen cysylltid teulu Thomas â Choed Helen, Sir Gaernarfon.

Dywedir i Joseph Thomas farw yn 1708. Dilynwyd ef gan ei fab hynaf,

RICE THOMAS,

a dderbyniwyd fel aelod o'r Middle Temple yn 1714, a'i wneud yn fargyfreithiwr yn 1720. Bu farw yn 1722 a dilynwyd ef gan ei fab, WILLIAM THOMAS, siryf Sir Gaernarfon yn 1746. Yn 1753 dug William achos aflwyddiannus yn erbyn Thomas James, Arglwydd Bulkeley, yn Llys y Siawnsri, gan hawlio adfowson Aber (llawysgrifau Llanfair-Brynodol yn Ll.G.C.; llawysgrifau Baron Hill, 4590 yng ngholeg y brifysgol, Bangor). Bu farw yn 1763, a dilynwyd ef gan RICE THOMAS (1746 - 1814), siryf Sir Gaernarfon yn 1771, a ddilynwyd yn ei dro gan ei fab, o'r un enw (1771 - 1850), siryf Sir Gaernarfon yn 1831-1832, bonheddwr tawel, gwledig, yr olaf o'r teulu yn y llinach wrywaidd union. Priodasai ei chwaer, Elizabeth, Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch, Môn, yn 1792 (gweler dan Hughes, William Bulkeley). Y Parch. Rice Robert Hughes (1800 - 1850) oedd ail fab y briodas hon, a'i fab hynaf ef, RICE WILLIAM THOMAS (1841 - 1892), a etifeddodd ystad Coed Helen, gan fabwysiadu'r cyfenw Thomas.

Awdur

  • Yr Athro William Ogwen Williams, (1924 - 1969)

Ffynonellau

  • Heraldic Visitations of Wales and Part of the Marches between the years 1586 and 1613, under the authority of Clarencieux and Norroy, two kings at arms ( Llandovery 1846 ), i, 27, ii, 152-3
  • Edward Arthur Lewis a J. Conway Davies, Records of the Court of Augmentations relating to Wales and Monmouthshire ( Caerdydd 1954 ) 63, 276, 278, 302
  • Sir John Wynn, The History of the Gwydir Family ( 1927 ), gol. J. Ballinger (1927), 66-7
  • R. Flenley, A calendar of the register of the Queen's Majesty's Council in the dominion and principality of Wales and the marches of the same (1535) 1569-1591 ( London 1916 ), 135
  • E. G. Jones, 'The Caernarvonshire Squires' (traethawd M.A.)
  • Foster, Alumni Oxonienses: the members of the University of Oxford
  • An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire ( London 1956-1964 ), i, 3
  • Register of Admissions to Gray's Inn, 1521–1889 … ( 1889 ), 151
  • The Parliamentary or Constitutional History of England from the earliest times to the Restoration of Charles II ( 1751–62 ), (1753), ix, 15
  • W. R. Williams, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 ( Brecknock 1895 ), 50, 66
  • A. H. Dodd, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (1948), 51
  • Calendar of the Committee for Compounding with Delinquents, etc., 1643–1660, iv, 2740-1, 2820
  • A. Ivor Pryce, Diocese of Bangor During Three Centuries, seventeenth to nineteenth century inclusive being a digest of the registers of the bishops ( 1929 ), ii
  • Register of Admissions to the Honourable Society of the Middle Temple ( 1949 ), 273-4
  • Burke's … Peerage, Baronetage, and Knightage (1937), 1180
  • Public Record Office, List of Sheriffs for England and Wales … to A.D. 1831 ( 1898 ) (P.R.O.);, LR I /213, 215, 222, Sta. Cha. 5/W49/7, 5/J12/23, 8/284/9, Chancery Pdgs. C5/565/67, C6/133/215
  • Llawysgrifau Llanfair a Brynodol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn Ll.G.C., 94, 98
  • ewyllysiau esgobaeth Bangor yn Ll.G.C.
  • llawysgrifau Garthewin 2080, 2089, yng ngholeg y Brifysgol, Bangor
  • llawysgrifau Plas Coch 3264, 3267
  • cofnodion Cwrt Sesiwn Chwarter sir Gaernarfon, 1640, 1652, 1680, 1686, 1704, 1715
  • llawysgrifau Coed Helen

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.