HUGHES, WILLIAM BULKELEY (1797 - 1882), Aelod Seneddol

Enw: William Bulkeley Hughes
Dyddiad geni: 1797
Dyddiad marw: 1882
Priod: Elizabeth Hughes (née Donkin)
Priod: Elizabeth Hughes (née Nettleship)
Plentyn: Sarah Elizabeth Hughes
Rhiant: Elizabeth Hughes (née Thomas)
Rhiant: William Bulkeley Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Aelod Seneddol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd ym Mhlas Coch, Llanidan, Môn; ganwyd 26 Gorffennaf 1797 yn fab hynaf i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch a'r Brynddu, ac Elizabeth, merch a chyd-etifeddes Rhys Thomas, Coed Alun, Caernarfon. Honnai teulu Plas Coch ei fod o gyff Llywarch ap Brân, arglwydd Menai, ac er canol y 15fed ganrif buasai iddo ran amlwg yng ngweinyddiaeth y sir. Cafodd Hugh Hughes (bu farw 1609), a adeiladodd Plas Coch yn 1569, yrfa ddisglair yn y gyfraith; daeth yn ' Queen's Attorney ' yng Ngogledd Cymru ac yn aelod o Gyngor y Gororau, ond ni chafodd fyw i weithredu fel arglwydd prif farnwr Iwerddon, swydd yr etholwyd ef iddi yn union cyn ei farw.

Cyfreithiwr oedd W. B. Hughes; o ysgol Harrow aeth i Lincoln's Inn, lle y galwyd ef i'r Bar yn 1824. Tra'n gwasnaethu fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Rhydychen a Chaer daeth ymlaen fel ymgeisydd Torïaidd yn etholiad bwrdeisdrefi Arfon yn 1837, a gorchfygodd y Capten Charles Henry Paget. A dyna gychwyn ei gyswllt seneddol hir â'r etholaeth hon, cyswllt a barhaodd am yn agos i 40 mlynedd ag eithrio un bwlch rhwng 1859 a 1865. Ceidwadwr cymedrol ydoedd o ran ei ddaliadau gwleidyddol, er mai fel Rhyddfrydwr yr ymladdodd etholiad 1865. Daliai i gynrychioli'r bwrdeisdrefi hyd adeg ei farw, ac o ran oedran efe ydoedd tad Tŷ'r Cyffredin.

Yr oedd ganddo ddiddordeb dwfn ac effro mewn materion lleol o bob math; eisteddai ar fainc yr ustusiaid yn ei sir ei hun ac yn Sir Gaernarfon, a bu'n uchel siryf Môn yn 1861. Fel cadeirydd y ' Llandudno Improvement Commissioners ' gwnaeth lawer i hyrwyddo datblygiad y dref honno rhwng y blynyddoedd 1873 ac 1877. Yn ystod y 40'au buddsoddodd lawer o'i arian mewn ffyrdd haearn yn Lloegr a Chymru, a bu'n gadeirydd y rheilffordd a redai trwy ganol Môn o'i chychwyn hyd nes i gwmni'r L.N.W.R. ei chymryd drosodd.

Bu ddwywaith yn briod: (1) ag Elisabeth, merch ac aeres Jonathan Nettleship, Matterset Abbey, swydd Northampton, (2) ag Elizabeth, merch William Donkin, Rothbury, Northumberland. Ei unig blentyn o'r ail briodas ydoedd Sarah Elizabeth, a hi a etifeddodd y stad pan fu farw ei thad, 8 Mawrth 1882, yn 84 mlwydd oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.