Mab John Francis, saer cerbydau yn Abertawe, a'i wraig Mary, a brawd George Grant Francis, yr hynafiaethwr. Bedyddiwyd ef yn eglwys Fair, Abertawe, 2 Mehefin 1815.
Dangosodd ei allu fel arlunydd yn ieuanc, ac yn enwedig ei ddawn i bortreadu pobl. Wedi gweithio yng Nghymru am beth amser, symudodd i Lundain, a daeth i gysylltiad agos â Dickens, Thackeray, Ruskin, a llenorion enwog eraill, ac ef oedd un o sylfaenwyr clwb adnabyddus, ' The Savage Club,' canolfan i'r sawl a ymddiddora mewn llenyddiaeth a chelfyddyd. Gwnaeth ddarluniau o'r frenhines Buddug, Syr Robert Peel, ac enwogion eraill, ac ysgythrwyd amryw ohonynt. Dangoswyd un darlun o'i waith yn arddangosfa'r Academi Frenhinol yn 1846, a dangoswyd amryw o'i weithiau mewn gwahanol arddangosfeydd rhwng 1837 a 1860.
Saif ' Oriel Deffett Francis ' yn Abertawe heddiw fel tystiolaeth o'i ddiwydrwydd fel casglwr celfyddwaith. Cedwir yno'r casgliad niferus o ddarluniau ac ysgythriadau o bob math a gyflwynwyd yn rhodd ganddo i gorfforaeth Abertawe, ynghyd â'i gasgliad gwerthfawr o lyfrau ar gelfyddyd. Cyflwynodd Francis rodd debyg hefyd i'r Amgueddfa Brydeinig. Bu farw yn Abertawe 21 Chwefror 1901.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.