Ganwyd Ionawr 1814 yn Abertawe, mab John Francis a Mary Grant. Yn Abertawe hefyd y cafodd ei addysg (yn yr High School) ac yno y treuliodd ei oes. Priododd, 1840, Sarah, merch John Richardson, gŵr o Northumbria a ymsefydlasai yn Abertawe, a bu iddynt dri mab. Brawd iddo oedd J. D. Francis.
Bu Francis yn ddiwyd gyda chynigiadau gwelliannau lleol y dywedid amdanynt eu bod o flaen eu hoes a heb fod yn gwbl dderbyniol am eu bod yn wastad yn ansicr yn yr ystyr ariannol. Yr oedd ei frwdfrydedd yn gor-redeg ei bwyll; serch hynny i gyd, fe wnaeth lawer o waith da. Bu'n helpu i sefydlu (yn 1835) y Royal Institution of South Wales, sydd yn parhau mewn bod, a rhoes ei gasgliadau a'i lyfrgell i'r sefydliad hwnnw. Yr oedd hefyd ymhlith yr aelodau a ffurfiodd y Cambrian Archaeological Association yn 1846. Efe'n bennaf a fu'n gyfrifol am ailsefydlu hen ysgol ramadeg waddoledig Abertawe ac aildrefnu cofysgrifau'r dref, a chadwraeth adfeilion castell Ystum Llwynarth. Bu'n faer yn 1853-4. Cododd a bu'n bennaeth ar y ' 1st Glamorgan Artillery Volunteers ' yn 1859. Arweiniodd ei ddiddordebau lleol ef i astudio hynafiaethau, a chyhoeddodd lyfrau, etc., sydd yn brin erbyn hyn, oherwydd cymharol ychydig o gopïau ohonynt a argraffwyd. Yn eu plith y mae (a) Original Charters and Materials for a History of Neath and its Abbey, 1845; (b) The Free Grammar School, Swansea, 1849; (c) Charters granted to Swansea, 1867; (d) The Smelting of Copper in the Swansea District, 1881. Bu Francis farw 21 Ebrill 1882 yn Llundain, a dygwyd ei gorff i'w gladdu yn Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.