Ganwyd 28 Gorffennaf 1854 yn Rhuddlan, yn fab i Thomas, mab Thomas a Jane Frimston ac yn frawd i John Frimston, gweinidog Trehafod (bu farw 1930). Derbyniwyd ef i Goleg Llangollen yn 1876 a bu'n weinidog yn Llangefni (1879-82), Brynhyfryd, Abertawe (1882-7), Garn Dolbenmaen a Chapel-y-beirdd (1887-93), Llangefni drachefn (1893-1904), a chodi yno gapel coffa Christmas Evans, ac, yn olaf, yn Hen Golwyn (1904-30). Priododd, 13 Mehefin 1882, Sarah Eleanor Roberts (bu farw 1 Mai 1927), merch Edward Roberts, Llangollen, a ganwyd iddynt bump o blant. Bu farw 12 Mai 1930 yn 76 oed.
Cofir Frimston yn arbennig am ei waith ymchwil ar hanes ei enwad, megis Ebenezer: Hanes Eglwys Fedyddiedig Llangefni, 1897; Canrif o Ymdrechion Bedyddwyr Môn, 1902; ac amryw o erthyglau yng nghylchgronau'r enwad, yn bennaf ar ' Bedyddwyr Sir Fflint ' yn Y Greal, 1907-10, 1917, a Seren Gomer, 1921, 1923-4, ac ar ' Bedyddwyr Môn ' yn Seren Gomer, 1925-6. Cyhoeddwyd amryw eraill o'i weithiau, megis Y Cyssonydd Ysgrythyrol, 1885; Crefydd ym Mhlwyf Rhiwabon, 1890; Ofergoelion yr Hen Gymry (d.d.); a Holwyddoreg Ysgrythyrol (d.d.); ac ymddengys ei enw ymhlith awduron Y Gwyddoniadur Cymreig. Enillodd hefyd ddwy wobr am draethodau yn yr eisteddfod genedlaethol - yn y Rhyl (1892) ar ' Hynafiaethau Sir Fflint,' ac ym Mhontypridd (1893), ar ' Y Cymry a ymfudodd ac a gododd i enwogrwydd yn yr America a'r Taleithiau Prydeinig.' Bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Lyfrau Bedyddwyr Cymru, ac yn llywydd cymanfaoedd Môn (1897) a Dinbych, Fflint, a Meirion (1926).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.