Dywedir iddo gael ei eni yn Abergwaun, ond nid oes sicrwydd pa bryd am nad yw rhestri bedyddiadau'r plwyf yn gyflawn am y cyfnod hwnnw. Awgryma H. M. Vaughan mai'r un yw'r peintiwr a'r Thomas, mab Thomas George, saer maen, a'i wraig Ann, a fedyddiwyd yn Abergwaun 28 Mai 1810. Eithr awgryma Basil Long iddo gael ei eni yn 1790, a feallai mai ef sydd yn agosaf i'w le oherwydd cawn fod George yn arddangos un o'i ddarluniau yn y Royal Academy yn 1829. Dangoswyd pump o'i ddarluniau yn yr Academy honno rhwng 1829 a 1838.
Dywedir ei fod yn byw yn Hwlffordd yn 1824; y mae'n sicr iddo weithio yn Sir Benfro am beth amser, a gwnaeth fân-ddarluniau o aelodau o deulu Harries o Dregwynt. Deallwn ei fod yn Llundain yn gweithio yn 1826 yn ôl mân-ddarlun yng nghasgliad Amgueddfa 'Victoria and Albert' yn dwyn y nodyn canlynol ar y cefn: 'Painted by T. George. London Octr 1826.'
Y mae gan Syr Thomas Barry Jones fân-ddarlun gan George, darlun o'r peintiwr ei hun yn ôl pob tebyg, a roddwyd ganddo, ychydig cyn ei farw, i'w frawd Henry yn Abergwaun. Ceir yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd un mân-ddarlun ar ifori gan George a thri darlun dyfrlliw ganddo, ac y mae yn yr Amgueddfa Brydeinig ddau ddarlun maenargraff seiliedig ar ddarluniau gan George.
Er ceisio adfer ei iechyd aeth Thomas George i ynys Madeira, ond bu farw yno yn 1840.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.