VAUGHAN, HERBERT MILLINGCHAMP (1870 - 1948), hanesydd, ac awdur

Enw: Herbert Millingchamp Vaughan
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1948
Rhiant: Julia Ann Vaughan (née Morris)
Rhiant: John Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd, ac awdur
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 27 Gorffennaf 1870 yn Mhenmorfa, Llangoedmor, Sir Aberteifi, mab hynaf John Vaughan a Julia Ann (Morris). Cafodd ei addysg yn ysgol Clifton a Choleg Keble, Rhydychen, lle y graddiodd. Gan fod ganddo foddion preifat medrodd roddi ei holl fryd ar astudio hanes a llenyddiaeth ac ymroddi i lenydda. Cyhoeddodd dros ddwsin o lyfrau, heblaw ysgrifennu llu o erthyglau ac adolygiadau, a gadael ar ei ôl, heb eu cyhoeddi, dair nofel a gweithiau ereill. Ei lyfr cyhoeddedig cyntaf oedd The Last of the Royal Stuarts (1906), sef hanes Henry Benedict Stuart, y dug Efrog Iacobitaidd a chardinal Efrog wedi hynny. O 1899 hyd 1910 bu'n byw yn yr Eidal, yn Naples a Florence y rhan fwyaf o'r amser, yn astudio hanes a daearyddiaeth y wlad honno ac yn ysgrifennu llyfrau (gweler Rhestr yn Who's Who). Yn 1912-13 bu'n trafaelio yn Awstralia, gan gyhoeddi An Australasian Wander Year. Yn ystod Rhyfel Mawr I yr oedd gartref ym Mhlas Llangoedmor, yn cynorthwyo ar bwyllgorau ynglŷn â gwaith rhyfel ac yn ysgrifennu nofelau — e.e., Meleager: A Fantasy (1916) a The Dial of Ahaz (1919). Cyhoeddodd Sonnets from Italy yn 1919, a Nepheloccygia: or Letters from Paradise yn 1929.

Yn 1924 symudodd Vaughan i Ddinbych-y-pysgod ac yno yr ysgrifennodd ei waith mwyaf adnabyddus o safbwynt Cymru, sef The South Wales Squires (1926). Yr oedd ei wybodaeth am hen deuluoedd tiriog Cymru yn eang; dyna'n ddiau a barodd iddo gystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol ar y testun — ‘Jacobitiaid Cymru ’ (a gyhoeddwyd yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion) 1920, ac ysgrifennu (yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion , 1911-12, 1919-20) ar Thomas Johnes yr Hafod a'i wasg argraffu breifat.

Ysgrifennai'n fynych hefyd i gyfnodolion a newyddiaduron, yn enwedig i'r West Wales Historical Records, Journal of the Welsh Bibliographical Society, Welsh Outlook, y Western Mail, a rhai o gyfnodolion mwyaf adnabyddus Lloegr.

Cofféir Vaughan hefyd am ei wasanaeth gwerthfawr dros dymor hir (1916-48) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru — fel cynghorwr a phwyllgorwr ac fel rhoddwr hael i'r sefydliad hwnnw. Rhoes i'r Llyfrgell gasgliad ei hen-daid Benjamin Millingchamp o'r llawysgrifau dwyreiniol a gasglasai hwnnw — am fanylion gweler ‘Life and Letters of the Venerable Benjamin Millingchamp’ (N.L.W. MSS. 13915-7 yn awr) a Hermann Ethé, N.L.W. Catalogue of Oriental Manuscripts (1916). Yr oedd yn awdurdod ar blatiau llyfrau; bu'n cynorthwyo i gatalogio casgliad helaeth Syr Evan Davies Jones, barwnig, ac efe a gatalogiodd (1938) gasgliad Aneurin Williams (yn LL.G.C.). Pan oedd yn byw yn yr Eidal casglodd lawer o lyfrau prin a chain; y mae'r casgliad hwn yn LL.G.C. bellach. Ychydig cyn ei farw ysgrifennodd fath ar hunangofiant — ‘Memoirs of a Literary Bloke’ (N.L.W. MS. 14341) a ‘Notes on the Life of Dorothy, Viscountess Lisburne’ aelod o deulu Fychaniaid Trawsgoed (Sir Aberteifi) yr oedd yntau'n perthyn ar un ochr iddo (N.L.W. MS. 14647). Bu farw 31 Gorffenaf 1948 yn Ninbych-y-Pysgod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/