Fe wnaethoch chi chwilio am *
Daeth yn arweinydd 'pobl Hugh Evans '. Sicrheir hyn gan adroddiad Henry Maurice yn 1675; dywaid fod Gregory yn henuriad athrawus i'r Arminiaid yng ngorllewin Maesyfed a gogledd Brycheiniog a gyfarfyddai yn y Cwm (Cwm Fardy yn ôl traddodiad) ym mhlwyf Llanddewi Ystradenni, yn nhŷ Peter Gregory. Nid oes air am Henry Gregory yn llyfrau 'consistory' Aberhonddu i fyny i ddiwedd 1668, ond y mae llawer gan Joshua Thomas i'w ddywedyd am brofiadau chwerw a gafodd ar ôl 1668, ac am y dynged drist a ddigwyddodd i'w erlidwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.