Ganwyd yng Nghaernarfon, 1860, i John Owen Griffith ('Ioan Arfon') ac Ann (gynt Roberts). Addysgwyd ef yn Lerpwl a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n gyfreithiwr ym Mangor am rai blynyddoedd. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1903, a bu'n gysylltiedig â chylch cyfreithiol Gogledd Cymru a Chaer. Yn 1915 penodwyd ef yn ynad cyflog ym Merthyr Tydfil ac Aberdâr, swydd a ddaliodd hyd ei ymddiswyddiad yn 1935.
Ar yr ochr lenyddol yr oedd yn eisteddfodwr brwd, a chymerodd yr enw barddol ' Elphin.' Ysgrifennodd ddwy gyfrol o farddoniaeth Gymraeg, Murmuron Menai ac O Fôr i Fynydd, a chomedi Gymraeg, Y Bardd a'r Cerddor; yr oedd hefyd yn gyd-awdur cyfrol Saesneg, The Welsh Pulpit. Bu'n cyfrannu hefyd fel beirniad llenyddol a dychanwr i gylchgronau fel Y Geninen. Bu farw yng Nghaerdydd, 26 Rhagfyr 1936, a chladdwyd ef yn Llandudno, 31 Rhagfyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.