bedyddiwyd ef 24 Rhagfyr 1799, yn fab i Griffith ac Elizabeth Griffiths, Ty'n-nant, Llanfihangel-geneu'r-glyn, Sir Aberteifi. Cafodd addysg o dan yr archddiacon John Williams yn ysgol ramadeg Llanbedr-pont-Steffan. Ar ôl cael ei ordeinio yn ddiacon hwyliodd i Jamaica yn 1825 i fod yn genhadwr o dan gymdeithas Eglwys Loegr er hyrwyddo lledaeniad yr efengyl mewn gwledydd tramor; cafodd ei ordeinio'n offeiriad yn Jamaica gan yr esgob Lipscombe, a'i ddewis i weithio yn rhanbarth Marchioneal Bay; fe'i symudwyd i Portland yn 1833 ac, yn ddiweddarach, i Trelawney. Gweinidogaethodd yn llwyddiannus ymysg y boblogaeth Ddu mewn cyfnod terfysglyd, pan oedd y rhai a gaethiwyd yn cael eu rhyddhau. Bu farw 8 Rhagfyr 1845.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.