Mab i James Griffiths (1782 - 1858), a oedd ar y pryd yn weinidog ym Machynlleth, ond yng nghartref ei fam yn Llanferan gerllaw Tyddewi y ganed Henry (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, iii, 27). O'r Neuaddlwyd (Geninen, 1886, 113), aeth i Goleg y Brifysgol yn Llundain, lle y daeth yn drwm dan ddylanwad Augustus de Morgan, a gryfhaodd ei ogwydd at fathemateg ac athroniaeth. Wedi bugeilio yn Ynys Wyth ac yn Stroud, penodwyd ef yn 1842 yn brifathro'r Coleg Annibynnol yn Aberhonddu. Fel athro, yr oedd ei safonau'n uchel, a phrin y dygymyddai â ffyliaid, ond yr oedd gan ei fyfyrwyr gorau feddwl mawr ohono; gweler Dysgedydd, 1891, 405. Yn wleidyddol, Radical oedd Griffiths, ac yn arbennig cefnogwr mawr i'r mudiad 'gwirfoddol' mewn addysg; darllenodd bapur i'r gynhadledd yn Llanymddyfri yn Ebrill 1845, ac efe oedd ysgrifennydd coleg hyfforddi'r mudiad, yn Aberhonddu (gweler Evan Davies, 1826 - 1872). Cyflwynodd femorandwm i'r dirprwywyr ar Addysg yng Nghymru (1846), a argraffwyd yn yr ail gyfrol o'r ' Llyfrau Gleision.' Cyhoeddodd amryw lyfrau ar grefydd ac athroniaeth, ac yn 1848 bamffled, Education in Wales. Ar ddiwedd 1853 ymadawodd â'r coleg, ac aeth drachefn i ofalaethau yn Lloegr : yn Lerpwl, Bowdon, a New Barnet. Bu farw yn Bushey Health, 14 Awst 1891, a chladdwyd yn Cowes. Ychydig, yn wir, fu ei ymwneud â Chymru. Am ei fab, y prifathro Ernest Howard Griffiths, gweler dan ei enw. Doeth fydd nodi bod HENRY GRIFFITHS arall (1825 - 1886) yn nhref Aberhonddu, sef gweinidog capel Annibynnol Glamorgan Street o 1849 hyd 1873, a fu wedyn yn oruchwyliwr Cymdeithas y Beiblau yn Neheudir Cymru - amdano ef, gweler Album Aberhonddu, 151.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.