Ganwyd 2 Awst 1782 yn Clungwyn, Meidrim, Sir Gaerfyrddin, mab David a Margaret Griffiths, aelodau yng nghapel Bethlehem, S. Clêr. O ysgol yn S. Clêr aeth i ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac oddi yno i'r Coleg Presbyteraidd yn 1802. Ordeiniwyd ef ym Machynlleth ym mis Mawrth 1807. Cynhyddodd aelodaeth ei eglwysi; yr oedd Aberhosan a Penuel o dan ei ofal ac yr oedd yn arolygu eglwysi Towyn, Llanegryn, a Llwyngwril. Priododd Sarah Phillips yn 1811. Yn 1841 symudodd i Rhodiad a Tyddewi, lle y llafuriodd hyd ei farw ar 11 Ebrill 1858; claddwyd ef yn Ebenezer, Tyddewi. Cyhoeddodd Trefn Eglwys dan y Testament Newydd, 1811. Gyda John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill, yr oedd yn gyfrifol am y 'System Newydd.' Cyfrifid ei syniadau yn anuniongred, a bu raid i Griffiths ddioddef o'u plegid; mynnai gweinidogion uniongred ei esgymuno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.