Ganwyd yn Aberafan, Morgannwg, 1830, yn fab i Manuel Griffiths. Symudodd i Gwmtawe pan yn 20 oed ynglŷn â'r diwydiant alcam, gan ymsefydlu ym Mhontardawe, a daeth i'r amlwg yn gynnar yn ei gartref newydd fel athro cerddorol ac arweinydd corawl. Ei brif orchestwaith ym myd y gân, efallai, oedd sefydlu ' Undeb Corawl Dirwestol Dyffryn Tawe ' yn 1861 - cymdeithas a ddaeth yn enwog yn y sir a'r dalaith am ei chyfraniad gwych i ddiwylliant canu corawl a chynulleidfaol yn y chwe degau. Efe a roddodd y perfformiad cyntaf o ' Meseia ' (Handel) yng ngorllewin Cymru gyda chyfeiliant cerddorfaol. Gwnaeth hyn yn Ystalyfera ac Abertawe yn 1862, ac yn y flwyddyn ddilynol rhoddodd y gymdeithas dri pherfformiad o ' Ystorm Tiberias ' (' Tanymarian '). Bu ' Ifander ' yn dra diwyd yn y blynyddoedd dilynol yn diwyllio caniadaeth Morgannwg mewn eisteddfod, cyngerdd, a chymanfa, a daeth yn un o feirniaid mwyaf poblogaidd ei ddydd. Cyfansoddodd anthemau a thonau, a chanwyd cantawd o'i waith ar ' Warchae Harlech ' (' Ceiriog ') gan ei gôr yn nechrau 1864. Symudodd o Gymru yn 1869 i arolygu gweithiau alcam yn Workington. Cyfrannodd lawer i ddiwylliant caniadaeth, ac yn arbennig y gân Gymreig, yno hefyd, trwy drefnu eisteddfodau ac arwain cymanfaoedd ym mlynyddoedd ola'r ganrif. Bu farw yn Workington yn 1910.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.