GRUFFUDD ap GWRGENAU, bardd

Enw: Gruffudd ap Gwrgenau
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Nid erys o'i waith ond (1) awdl farwnad i'r tywysog Gruffudd ab Cynan ap Owain Gwynedd, a fu farw (1200) yn fynach yn abaty Aberconwy, a (2) cadwyn o englynion yn datgan hiraeth y bardd ar ôl rhai o'i gymdeithion. Y mae'r awdl yn gwbl arbennig ymhlith y marwnadau i'r tywysogion am mai ail le a roddir i achau a gyrfa a haelioni'r gwrthrych. Nid syniadau'r canu arwrol sydd ynddi'n bennaf, ond homili fanwl yn null yr Eglwys a'r fynachlog ar freuder ac oferedd oes dyn, a phwysigrwydd cymod â Duw. Ceir llinellau coeth, dwys, a chynnil, sy'n glynu yn y cof. Y mae'r englynion i gymdeithion coll y bardd, a gyferchir bob yn un wrth eu henwau, yn debyg iawn yn eu hawyrgylch a'u celfyddyd i gyfresi adnabyddus gan R. Williams Parry ar achlysuron cyffelyb.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.