Ganwyd ym Mhencefn, Llanbeblig, Sir Gaernarfon. Adwaenid ef dan yr enw ' Cantwr Salmau,' am yr arferai fynd oddi amgylch yr eglwysi i ddysgu i'r bobl ganu salmau. Tystia Owen Williams o Fôn yn ei Gamut i'w allu cerddorol, a chredai iddo gyfansoddi amryw donau i Brenhinol Ganiadau Seion (Owen Williams). Efe a gyfansoddodd ' Difyrwch gwyr Caernarfon ' a ' Difyrwch gwyr y Gogledd ' (a geir yn y casgliadau tonau dan yr enw ' Trefdeyrn'). Ei anthemau oedd ' Mor hawddgar yw dy bebyll,' ' Arglwydd, clyw fy ngweddi,' ac ' Ein Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.' Bu farw 17 Awst 1820. Ar garreg ei fedd ceir: 'Underneath lieth the body of Robert Griffith, late singing-master of Llanbeblig.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.