Ganwyd Gorffennaf 1774 yn y Cwirt, plwyf Llandyfrydog, Môn, mab Owen ac Ellen Jones. Cofrestrir ei fedydd yn eglwys Llandyfrydog fel a ganlyn - ' July 11, 1774, Owen Jones (son of) Owen Jones & Ellen, Quirt, husbandman, Nic: Owen, Rector.' Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc a dywed na chafodd esmwythyd i'w feddwl hyd oni chyfrannodd i'w gydwladwyr y dalent a dderbyniodd.
Yn 1817 dug allan Egwyddorddysg … neu Gatecism ar Reolau Cerddoriaeth, sef byr draethawd o waith Charles Dibdin, wedi ei Gymreigio gan Owen Williams. Yn 1818 cyhoeddodd Eguyddorion Canu; ceir ynddo wyth o ddarluniau wedi eu cerfio gan ' Mr. H. Hughes o Landydno, Sir Gaernarfon,' sef Hugh Hughes y ' Welsh Artist '. Cyhoeddwyd y ddau lyfr yn un a chafodd gylchrediad helaeth yng Nghymru. Yn 1819 dug allan Brenhinol Ganiadau Sion yn ddwy gyfrol. Cynnwys y gyfrol gyntaf donau ar gyfer mesur salmau can Edmund Prys, a'r ail gyfrol donau ar gyfer mesurau newydd gan ' Pantycelyn ' ac eraill - y gerddoriaeth wedi ei threfnu gan S. Wesley a V. Novello. Y mae'r ddau gasgliad yn werthfawr. Yn 1827 dug allan The Harp of David King of Israel or Royal Psalm of Zion. Ceir yn hwn hanes ei fywyd; dywed iddo trwy ddylanwad C. W. Williams Wynn, A.S., gael swydd yn ' His Majesty Stamp and Tax Office January 1827 which was to him then as life from the dead.'
Syrthiodd i dlodi mawr yn niwedd ei oes. Bu farw yn Llundain 23 Mai 1839, ac ni wyddys ym mhle y claddwyd ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.