Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Yr unig sylfaen i'w hanes ydyw'r traddodiadau sydd wedi eu corffori mewn 'bucheddau' yn perthyn i'r 12fed ganrif. Dywedir mai brodor o Degeingl (Sir y Fflint bellach) oedd Tevyth, ei thad; yn ôl achau diweddar yr oedd ei mam, Gwenlo, yn chwaer i Beuno Sant. Y mae'n weddol sicr fod iddi gyswllt clos â lledaeniad parch Beuno yng ngogledd-ddwyrain Cymru; ar y fan lle y mae ei chysegr hi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, lle yr adroddir iddi gael ei chodi o farw i fyw gan wyrth a gyflawnodd Beuno, safai (fe arferid credu) gapel a sefydlwyd gan y sant hwnnw. Y mae'n debyg hefyd mai gwir yr hanes iddi fod yn ddiweddarach mewn cyswllt agos â'r sant Eleri a threulio ei blynyddoedd olaf gyda honno yn Gwytherin, lle y claddwyd hi i gychwyn. Peth cymharol ddiweddar, fodd bynnag, oedd ei pharch personol hi ei hunan; ymddengys i hwnnw ddatblygu o dan nawdd abaty Amwythig lle y trosglwyddwyd ei gweddillion hi yn 1138 a lle hefyd y cynhullwyd y prif hanes am ei bywyd gan y prior Robert rhwng 1140 a 1167. Yr adeg honno, fodd bynnag, yr oedd ei pharch yn parhau i fod yn lleol ac felly y bu hyd nes, ymhellach ymlaen yn y Canol Oesoedd, y lledaenodd ei henwogrwydd hi ac enwogrwydd ei chysegrleoedd yn Nhreffynnon, Gwytherin, ac Amwythig yn fawr ac y daeth y santes i ennill sylw'r beirdd Cymreig a llunwyr bucheddau'r saint. Ddwywaith yn ystod y cyfnod diweddar hwnnw rhoddwyd datganiad archesgobaethol yn pennu y trydydd dydd o Dachwedd yn ŵylmabsant iddi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.