Ganwyd yn Penderyn, sir Frycheiniog, eithr symudodd yn gynnar yn ei oes i Cefn-Coed-y-Cymer. Pan fu farw ar 20 Awst 1837, yn 85 oed, yr oedd wedi bod am 60 mlynedd yn aelod yn 'Hen Dŷ Cwrdd' Cefn Coed, eglwys Undodaidd, ac yn briod am 50 mlynedd. Fe'i goroeswyd gan bedwar o blant a 32 o ŵyrion ac ŵyresau; yr oedd ' Cynonwyson ' yn fab i un o'i ferched. Ar un cyfnod, pan oedd yn gyfyng ei amgylchiadau, talodd ei eglwys 1/- iddo - ' Charity to Edward Harri, 1/-. ' Ceir y cofnod hwn hefyd yn un o lyfrau'r eglwys - ' July 22, 1827, Edward Harri, weaver, and his wife have been restored and partook of the Lord's Supper.' Ychydig o'i waith barddonol sydd ar gadw - dim ond ' Cynghorion idd ei ŵyr ' a ' Galar-gan ar ol ei wraig.' Yr oedd William Harri, Garw Dyle, yn frawd iddo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.