HARRI, WILLIAM ('Gwilym Garwdyle '; 1763 - 1844), bardd

Enw: William Harri
Ffugenw: Gwilym Garwdyle
Dyddiad geni: 1763
Dyddiad marw: 1844
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 18 Rhagfyr 1763 yn Garw-dyle, Penderyn, yn ŵyr, meddir, i'r bardd Siôn Llewelyn o'r Faenor. Gwehydd oedd, a gwehyddion hefyd oedd ei ddau frawd Siôn Harri o'r Faenor ac Edward Harri o Gefncoed. Bu'n ffermio 'n aflwyddiannus yn Llwynonn, Penderyn, ond bwriodd y rhan helaethaf o'i oes ym Mhontbren-llwyd. Cafodd naw o blant. Bu farw yn nhŷ un o'i feibion, yn Nowlais, 11 Gorffennaf 1844, yn ei 82 mlwydd oed. Dychanai a chanai hefyd gerddi crefyddol. Undodwr oedd ef. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i brydyddiaeth: Yr Awen Resymol, 1828, a Nodd Awen, 1835.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.