Ganwyd 30 Tachwedd 1690 yn Cefn Coed y Cymer, plwyf Vaynor (y Faenor Wen), sir Frycheiniog. Ychydig addysg a gafodd; dysgodd ddarllen Cymraeg, ond ni wyddai ddim Saesneg. Ac eto cyhoeddodd y bardd hunan-ddiwylliedig hwn gyfrol o'i farddoniaeth a'i emynau a fu mor boblogaidd nes y bu raid cael pedwar (pump?) argraffiad ohoni; teitl argraffiad 1791 ydyw Difyrrwch diniwaid … Sef deunaw o Ganiadau … Gyd a Naw o Hymnau duwiol .
Yn 18 oed daeth yn aelod yn hen gapel Cwmyglo ar ochr y mynydd rhwng Merthyr Tydfil ac Aberdâr. Arminiad oedd y bardd, fel ei weinidog, Roger Williams, a thrwy ei ganeuon gwnaeth lawer i wrthweithio dylanwad y syniadau Calfinaidd a goleddid gan rai o grefyddwyr y cylch. Yn 1747 symudodd yr Arminiaid i gapel newydd, yr Hen Dŷ Cwrdd yn Cefn, a daeth y bardd yn ddiacon cyntaf yr eglwys newydd honno. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth, eithr dywed un llawysgrif ei fod yn wehydd. Bu farw 1 Ionawr 1776 a'i gladdu yn nhir yr Hen Dŷ Cwrdd; rhoddwyd carreg goffa yn y capel ar 17 Awst 1947. Ŵyr iddo oedd William Harri, Garw Dyle, Penderyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.