HARRIES, EVAN (1786 - 1861), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Evan Harries
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1861
Priod: Mariah Harries (née Parry)
Rhiant: Anne Harries
Rhiant: Henry Harries
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn Nhŷ'n-y-llan, Llanwrtyd, 7 Mawrth 1786, mab Henry ac Anne Harries. Ei frawd hynaf oedd William Harries, Trefeca. Priododd Mariah, merch y Parch. Dafydd Parry, Llanwrtyd, 1808. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Ebenezer Richard yn 1812; ymunodd ag eglwys Pontrhyd-y-bere a dechreuodd bregethu yn 1814. Aeth i fyw i Aberhonddu yn 1818 i fasnachu fel brethynwr. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1826. Symudodd i Ddowlais yn ddiweddarach ac ymsefydlodd wedyn ym Merthyr Tydfil, lle y treuliodd weddill ei oes. Bu'n un o brif bregethwyr Methodistiaid Morgannwg, a chofir hyd heddiw ei ddywediadau ffraeth. Bu'n un o arweinwyr ei gyfundeb hefyd. Saer ac adeiladydd ydoedd o ran ei grefft, a gwasanaethodd fel pensaer i'w enwad. Codwyd nifer mawr o gapeli'r sir dan ei arolygiaeth. Bu farw 20 Tachwedd 1861, a chladdwyd ef ym mynwent y Graig, Merthyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.