HARRIS, SOLOMON (1726 - 1785), gweinidog Ariaidd ac athro coleg

Enw: Solomon Harris
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1785
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Ariaidd ac athro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yn Cilgwyn, Sir Aberteifi, 21 Chwefror 1726. Fe'i haddysgwyd gan y Parch. Timothy Davis, Cilgwyn a Chaeronnen, ei weinidog, digon tebyg, ac yng Ngholeg Caerfyrddin (1746-1750). Fe'i cynorthwyid yn y coleg gan y Bwrdd Cynulleidfaol. Yn 1750 derbyniodd alwad i eglwys Bresbyteraidd Abertawe, ac fe'i hordeiniwyd yno 4 Medi 1751. Agorodd ysgol gyda chynhorthwy John Bache yn nechrau 1753, a chadwodd hi bron drwy gydol ei weinidogaeth. Wedi cau Coleg Caerfyrddin yn Rhydygors, apwyntiwyd ef yn brifathro gan symud y coleg ato i Abertawe. Ychydig oedd nifer y myfyrwyr, a bu Harris farw ymhen blwyddyn.

Maentumir mai ef a droes feddwl y gynulleidfa gyntaf at syniadau Undodaidd. Mynnir mai Calfin ydoedd ar y dechrau, ond nid Calfinaidd syniadau Timothy Davis nac eglwysi Cilgwyn a Chaeronnen. Awgrymir ei fod yn Ariad cyn 1776 pan gydweithredodd â Lewis Rees, Mynydd-bach, i sefydlu cynulleidfa Gymraeg Annibynnol yn Abertawe. Yn llythyrau Trefeca (yn Ll.G.C.) sonnir am Solomon Harris yn awgrymu bod rheswm yng ngolau'r efengyl yn ddigon i ddwyn dynion i iachawdwriaeth. Cyhoeddodd bregeth Gymraeg — Ystyriaethau ar anchwliadwy olud Crist — 1774, a phregeth Saesneg yn 1783. Bu farw 15 Awst 1785.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/