Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

HERRING, JOHN (1789 - 1832), gweinidog y Bedyddwyr

Enw: John Herring
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1832
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

yn Bethania, Aberteifi; ganwyd ym mlwyf Trallwng, Brycheiniog, 8 Chwefror 1789, ond magwyd ef ym mhlwyf cyffiniol Llanspyddid. Gwasgedig oedd yr amgylchiadau wedi marw'i dad (1793) nes cafodd lysdad caredig yn 1800, a symud i Benycae, Mynwy. Bedyddiwyd ef yn Nhredegar yn 1804 a dechreuodd bregethu yn 1805. Ymsefydlodd yn Bethania, Aberteifi, 1811, ac yno y bu farw 2 Ebrill 1832. Meddai fwy o anhepgorion pregethwr mawr na neb yng Nghymru, meddai Christmas Evans. Yr oedd yn llywydd cymanfa'r de-orllewin, 1831-2, yn awdur y llythyr at yr eglwysi ar ' Sefyllfa crefydd yn ein plith,' ac yn olygydd Greal y Bedyddwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.