HILEY, FRANCIS (1781 - 1860), gweinidog y Bedyddwyr yn Llanwenarth

Enw: Francis Hiley
Dyddiad geni: 1781
Dyddiad marw: 1860
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd yn Cwm, Llanwenarth, ychydig cyn 16 Mawrth 1781. Yr oedd ei dad, gŵr o waed Ellmynig, yn Eglwyswr mewn enw, a'i fam yn Fedyddwraig.

Aeth ryw Sul yn 1803 i gapel Llanwenarth a chafodd dröedigaeth; dechreuodd bregethu ymhen blwyddyn. Aeth i athrofa'r Fenni; ymsefydlodd yn Llanwenarth yn 1811, ac aros yno hyd y bu farw 14 Hydref 1860. Corfforodd wyth o eglwysi.

Yr oedd yn gawr o bregethwr, a dywedodd Christmas Evans, rywbryd, na phregethai ar ei ôl. Uchel-Galfin ydoedd yn y dadleuon athrawiaethol - effaith ei dröedigaeth ddisyfyd - ac yn 1823 cyhoeddodd lyfryn, Golwg Ysgrythurol ar Iawn Crist, am i Seren Gomer ei wrthod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.