RICHARD HILL I (bu farw 1806). Cawsai Richard Hill brofiad yng ngweithydd haearn Anthony Bacon (Cyfarthfa a Hirwaun) cyn iddo ddyfod yn bennaeth gwaith haearn Plymouth dros Bacon. Priododd Mary, chwaer Mrs. Bacon, a galwyd ei fab ieuengaf, a anwyd yn 1784, yn Anthony Hill. Pan fu Bacon farw, a'i blant i gyd o dan oed, rhoddwyd ei stad yng nghofal Llys y Siansri. Gyda chaniatâd y llys rhoddwyd prydles 15 1/2 mlynedd o ddydd Nadolig 1786 ar ffwrnais Plymouth i Richard Hill. Cytunodd Hill i gyflenwi Richard Crawshay, Cyfarthfa, â haearn brwd, ac er mwyn ychwanegu at y gwaith cymerth brydlesoedd eraill hefyd a gwnaeth gytundeb arall â Crawshay ynglŷn â chyflenwad o gerrig calch. Tua'r flwyddyn 1794 bu Hill mewn cryn helynt gyda phobl y Glamorgan Canal Navigation; achwynai eu bod hwy yn cymryd dŵr o afon Taf at bwrpas y gamlas a bod eisiau'r dŵr hwnnw yn ei weithydd ef. Gwnaethpwyd pethau'n waeth oherwydd anghydfod a fu rhwng RICHARD HILL II, mab Richard Hill I, â cheidwad rhan o'r gamlas. Dyfarnwyd iawn-dâl i'r ceidwad yn sesiwn fawr sir Forgannwg, eithr yn y sesiwn a ddilynodd honno dyfarnwyd £300 yn iawn-dâl i'r tad oherwydd y golled a achoswyd i waith Plymouth gan awdurdodau'r gamlas. Yn 1799 daeth Thomas Bacon i'w oed. Gadawsai ei dad, Anthony Bacon, waith Plymouth iddo ef yn ei ewyllys. Cytunodd ef i drosglwyddo, ar delerau neilltuol, ei holl gyfran ef yn y gwaith i Richard Hill. Wedi cael y gwaith yn eiddo yn gyfan gwbl iddo'i hun aeth Richard Hill I yn ei flaen gyda'i gynlluniau. Gyda Richard Hill II cytunodd â chwmnïau gweithydd Dowlais a Penydarren i gael gwneuthur ffordd dram, at wasanaeth y tri chwmni, o'r gwaith hyd at Navigation (Abercynon yn awr). Yn yr un flwyddyn, sef 1803, cytunodd Hill (yr oedd yn beiriannydd profiadol) i wneuthur ffordd dram at wasanaeth y tri chwmni, y ffordd dram hon i gludo cerrig calch o chwareli Castell Morlais. Gan fod Richard Hill I a'i feibion (Richard Hill II ac ANTHONY HILL) yn awyddus i wella eu hamgylchiadau ac ychwanegu at eu pwysigrwydd fel meistri gwaith haearn, a chan nad oedd ganddynt ddigon o arian, penderfynasant gael partneriaid, a rhoes A. Struttle £15,000 a John Nathaniel Miers (mab-yng-nghyfraith Richard Hill I) £5,000 at ei gilydd i ffurfio y ' Plymouth Forge Company ' i ategu gwaith Hill a'i feibion. Aeth y gwaith yn ei flaen yn hwylus eithr bu Richard Hill I farw ar 20 Ebrill 1806. Yn 1813 tynnodd Struttle a Miers eu harian yn ôl a daeth y tri brawd Richard Hill II, John Hill, ac Anthony Hill, yn bartneriaid. Eithr gorfu iddynt gael swm mawr o arian yn fenthyg gan y Mri. Wilkins, Brecon Old Bank. Bu Richard Hill II yn byw am gyfnod yn Llandaf; gofalai ef am ochr gwerthu y busnes ac Anthony am adran cynhyrchu.
Yn 1806 yr oedd tair ffwrnais Plymouth yn cynhyrchu 3,592 tunell o haearn brwd; erbyn 1815 yr oeddent yn cynhyrchu 7,800 tunell. Adeiladwyd pedwaredd ffwrnais yn Plymouth, yn 1819 adeiladwyd y ffwrnais gyntaf yn Dyffryn, a c. 1824 adeiladwyd dwy ffwrnais arall. Parhâi'r cynnyrch i gynyddu - yn 1820 yr oedd yn 7,941 tunell, yn 1830 dros 12,000 tunell, ac erbyn 1846 dros 35,000 tunell. Yn 1826 gwerthodd John Hill ei gyfran ef i'w frodyr. Ychwanegwyd yr wythfed ffwrnais cyn bo hir; dywedid mai hon oedd y ffwrnais fwyaf yn y byd ar y pryd. Parhaodd Richard ac Anthony yn gyd-benaethiaid hyd y bu Richard farw yn 1844. Bu Anthony farw ar 2 Awst 1862.
Ystyrid mai Anthony Hill ydoedd y meistr gwaith haearn mwyaf gwyddonol ei agwedd yn Ne Cymru yn ei gyfnod. Yr oedd yn wastad yn gwneuthur arbrofion er ceisio gwella dulliau gweithio haearn. Yr oedd hefyd yn feistr caredig - yn gofalu am gyfleusterau addysgol a chrefyddol i'w weithwyr a'u teuluoedd. Sefydlodd eglwys newydd yn Pentrebach a'r ysgol genedlaethol yn yr un lle; y mae cronfa ' Ysgoloriaeth Anthony Hill ' yn parhau hyd heddiw. Pan fu ef farw gwerthwyd y gwaith i'r Meistri Fothergill, Hankey, a Bateman am £250,000, eithr ni bu gweithio ynddo wedi c. 1880.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.