WILKINS.

Ymsefydlodd teulu Normanaidd o'r enw ' de Wintona ' yn Llandochau (efallai mai yn Llandw) yn y 14eg ganrif newidiwyd yr enw i ' Wilcoline ' neu ' Wilkyn,' ac yn y 17eg i ' Wilkins.'

Bu THOMAS WILKYN (a fu farw 1623), ei fab ROGER WILKINS (a fu farw 1648), a'i wyr

THOMAS WILKINS (1625/6 - 1699) Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Ysgolheictod ac Ieithoedd

yn rheithoriaid Llan-fair ('S. Mary Church'). Aeth y diwethaf i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1641; graddiodd yn y gyfraith yn 1661; gyda Llan-fair, yr oedd yn dal rheithoraethau'r Gelli-gaer (1666) a Llanfaes (1668), ac yn ganon Llandaf. Bu farw 20 Awst 1699, yn 74 oed. Ei wraig oedd Jane, ferch Thomas Carne o Nash ac wyres Syr Edward Stradling o San Dunwyd; cawsant bump o blant. Y mae'r Thomas Wilkins hwn yn wr pwysig iawn yn hanes llenyddiaeth Cymru, nid, mae'n wir, yn herwydd unrhyw gynnyrch llenyddol o'r eiddo, ond fel hynafiaethydd, disgybl i Rys Meurig (Rice Merrick), a chasglwr llawysgrifau; bu rhai o'r hen lawysgrifau Cymraeg pwysicaf yn ei feddiant, yn eu plith ' Llyfr Coch Hergest ' a ' Llyfr yr Ancr.'

Cyfreithiwr oedd ei fab hynaf, THOMAS WILKINS (1677 - 1736?); ef a roes y ddwy lawysgrif a enwyd i lyfrgell Coleg Iesu. Bu'n ddirprwy-brif glerc ('deputy-protorotary') cylchdaith Brycheiniog am gyfnod hir - nid yn brif glerc, fel yr honnir yn gyffredin; a chymerth ei dylwyth (a'u ceraint drwy briodas) ran flaenllaw iawn yn hanes cyfreithiol ac ariannol a diwydiannol Brycheiniog a'r Blaeneudir. Gellid meddwl iddo farw tua 1736, ond nid oes unrhyw sicrwydd; arwyddir cofnodion y llysoedd o 1726 hyd 1736 gan ryw ' Wilkins,' ac o 1744 hyd 1758 gan ' Wilkins ' arall (?) - odid nad John Wilkins yw'r diwethaf. Bu'n briod deirgwaith. Plant ei wraig gyntaf (â Bryste y cysylltir hwy) a ddechreuodd atgyfodi'r hen gyfenw ' de Winton.' O'r ail briodas y ganed

JOHN WILKINS (1713 - 1784) Economeg ac ArianCyfraith,

ar 15 Tachwedd 1713. Bu ef yn ddirprwy-brif glerc o 1759 ('a chyn hynny') hyd 1784. Priododd â Sybil Jeffreys, nith ac etifedd Walter Jeffreys (a fu farw 1746), bancer, o ochrau Llywel. Dyma ddechreuadau 'Wilkins and Co.,' neu'r 'Brecon Old Bank' (bellach wedi ei lyncu gan Lloyds Bank), y cylchredai ei nodau drwy'r Blaeneudir, banc a oedd yn ddwfn yn anturiaethau cynnar y chwyldro diwydiannol.

Haedda tri o blant John Wilkins sylw:

(1) WALTER WILKINS (1741 - 1828) Diwydiant a BusnesGwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol,

a wnaeth ei ffortiwn yn yr India, a brynodd stad Maes-llwch yn sir Faesyfed, ac a fu'n aelod seneddol dros y sir honno o 1796 hyd 1828; newidiodd ei dylwyth eu cyfenw (yn 1839) i ' de Winton ';

(2) WILLIAM WILKINS Cyfraith

- ei bumed mab, fel y dywedir, ond nid yw hyn yn eglur; bu yntau'n ddirprwy-brif glerc, 1784-99, ac yn brif glerc o 1799 hyd ei farwolaeth yn 1812;

(3) ANNE WILKINS

a ddaeth yn wraig i John Maybery (a fu farw 1784). Mab oedd ef i Thomas Maybery, diwydiannwr o sir Gaerwrangon a oedd wedi cychwyn gwaith haearn yn Aberhonddu yn 1720 - yn 1758 cododd ' Maybery and Wilkins ' ffwrnais ar Hirwaun. O'r briodas hon ganwyd

Thomas Maybery (1759 - 1829) Cyfraith

a fu o 1804 (beth bynnag) yn ddirprwy-brif glerc i'w ewythr William Wilkins ac a godwyd yn brif glerc yn 1812. Daeth ei fab ef, Walter Maybery (1800-1862) yn brotonoter ym 1830, ' Protonotary ' olaf cylchdaith Brycheiniog, oblegid diddymwyd y ' Sesiwn Fawr ' yn Hydref y flwyddyn honno.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.