HINDE, CHARLES THOMAS EDWARD (1820 - 1870), cadfridog

Enw: Charles Thomas Edward Hinde
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1870
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadfridog
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: Elwyn Evans

ail fab Capten Jacob William Hinde, 15th Hussars, a Harriet, merch y Parch. Thomas Youde, ac ŵyres Jenkin Lloyd, Clochfaen, Llangurig. Fe'i bedyddiwyd yn Rhiwabon ar 30 Mai. Yr oedd ei rieni yn byw ym Mhenybryn. Yn 1840 aeth i weithio dros yr East India Company. O 1853 hyd 1857 bu'n swyddog (Lt.-Col.) dan Omar Pasha, pen-' cadfridog byddin Twrci yn y rhyfel rhwng Rwsia a Twrci. Cafodd amryw anrhydeddau. Dychwelodd i'r India yn 1857 ac fe'i apwyntiwyd i ofalu am ranbarth Rewah, a daeth yn amlwg yng ngwrthryfel 1858. Bu farw yn Brussels ar 15 Mai 1870, a chladdwyd ym mynwent Ixelle. Gweler hefyd Lloyd, J. Y. W.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.