HININ FARDD (1360? - 1420?), awdur daroganau

Enw: Hinin Fardd
Dyddiad geni: 1360?
Dyddiad marw: 1420?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur daroganau
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Raymond Wallis Evans

A barnu wrth gynnwys y pedair cerdd a briodolir iddo, blodeuai tua diwedd y 14eg ganrif. Cysylltir ei waith yn fynych yn y llawysgrifau â gwaith Myrddin a Taliesin, ac y mae ei ganu yn yr un traddodiad â'r daroganau a dadogir arnynt hwy. Yn Llanstephan MS 173 (130b) y ffurf ar ei enw yw ' hinyn fardd ' ac mewn cân ar ei enw yn Most. MS. 133 (53) cyfeirir at 'vardd hynaf hinin.' Ychydig a elwodd beirdd y Cywyddau Brud ar ei ddaroganau ac ni ddigwydd cyfeiriad ato yn eu gwaith.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.