HOWELL, LLEWELYN DAVID (1812 - 1864), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Llewelyn David Howell
Dyddiad geni: 1812
Dyddiad marw: 1864
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Tŷ Mawr, Llanuwchllyn. Ymfudodd i U.D.A. yn 1832, ymsefydlodd yn Utica, talaith Efrog Newydd, a bu'n bregethwr cynorthwyol gyda'r Annibynwyr o tua 1844; urddwyd ef wedyn yn weinidog yn Middle Granville (N.Y.). Daeth i'r amlwg fel eisteddfodwr ac fel noddwr Cymdeithas yr Hen Frythoniaid, Utica (a sefydlasid yn 1824); bu'n llywydd y gymdeithas yn 1842. Enillodd wobr yn eisteddfod Utica (2 Ionawr 1860) am draethawd a gyhoeddwyd yn Rome, N.Y., yn 1860, o dan y teitl Traithawd ar Ddechreaad a Chynnydd y Cymry yn Utica a'i Hamgylchoedd. Bu farw 13 Gorffennaf 1864; cyhoeddwyd cofiant iddo gan Edward Davies, Waterville, yn 1866.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.