HOWELL, THOMAS (1588 - 1646), esgob Bryste

Enw: Thomas Howell
Dyddiad geni: 1588
Dyddiad marw: 1646
Rhiant: Thomas Howell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Bryste
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

brawd i James Howell, awdur yr Epistolae, ewythr i'r James Howell a fu yn ei dro yn weinidog Piwritanaidd yn Sir Gaerfyrddin, ac yn offeiriad yn dal mwy nag un plwyf, ef hefyd yn dad bedydd i James Owen, un o brif arweinwyr Piwritaniaid Cymru ym mlynyddoedd olaf y 17eg ganrif a blynyddoedd cyntaf y 18fed ganrif. Cyn belled ag y mae Cymru yn myned, cwyd prif ddiddordeb yr esgob o'r cwlwm teuluol hwn. Cwynai rhai ei fod yn dipyn o Biwritan ei hun, ond yr argraff a adewir gan ei amryw ddyrchafiadau ar law Siarl I, yn enwedig ei benodi'n esgob Bryste yn 1644 pan oedd pethau yn edrych yn bur ddu ar ffawd y brenin, a chan y geiriau mawrhaol a arferir amdano gan David Lloyd a Thomas Fuller, ydyw ei fod yn Eglwyswr gyda'r mwyaf teyrngar (ef oedd yr olaf i'w gysegru yn Lloegr am 16 mlynedd).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.