Ganwyd 8 Ebrill 1848 yn Tregarth, Bangor, unig fab Hugh Derfel Hughes. Addysgwyd ef yng Ngholeg Normal Bangor, ac wedi iddo gwpláu'r cwrs yno bu'n dal swyddi fel athro yn Walsall, Abercarn, Gwalchmai, Parc (y Bala), a Llanelian. Ysgrifennai farddoniaeth a rhyddiaith i gylchgronau a newyddiaduron Cymraeg, ac ysgrifennodd nifer o lyfrau darllen i blant: Tlysau Ynys Prydain , 1902, Ystorïwr y plant, 1908, Tair cwpan aur, 1909, Melin law y tylwyth teg, Rhamant plât y pren helyg, 1916. Tua 1909, cyhoeddodd cwmni'r E.P.C., Caerdydd, Cyfres Brython, nifer o hanesion diddorol a straeon difyrus. Cyfieithodd nifer mawr o chwedlau gwerin Ewrob, ond ni chyhoeddwyd mohonynt; cyhoeddwyd ei gyfeithiad o Damhegion Aesop, a Brenin yr Afon Aur (Ruskin), 1908. Yr oedd yn gerddor gwych, cyfansoddodd ddarnau o fiwsig, ac yr oedd galw arno fel darlithydd ac athro ar gerddoriaeth. Penodwyd ef yn ysgrifennydd eisteddfod genedlaethol Bae Colwyn, 1910, ond ymddiswyddodd ar ôl byr amser. Yn 1911 symudodd i Aberystwyth a bu'n gwneud gwaith fel copïwr dros wahanol awduron yn y Llyfrgell Genedlaethol. Penodwyd ef yn athro ysgol Cwmpadarn, ger Aberystwyth, yn 1912, ond oherwydd gwaeledd ymneilltuodd ar ôl bod yno flwyddyn. Bu farw 24 Gorffennaf 1913 a'i gladdu ym mynwent Aberystwyth. Priododd ferch i R. H. Roberts, Llanelian, a bu iddynt ddau o blant.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.