Ganwyd yn Llangristiolus, Môn. Bu'n cadw ysgol yn Nhrefdraeth a lleoedd eraill ym Môn, ac yn Rhewl gerllaw Rhuthun. Gadawodd y swydd o ysgolfeistr ac aeth yn ddarllenydd i swyddfa Thomas Gee, Dinbych. Wedi hynny bu'n llyfr-rwymydd, crefft a ddysgodd ei hun. Rhoddodd y gwaith o rwymo llyfrau i fyny, a phenodwyd ef yn gyfrifydd i John Parry, gwneuthurwr menyg, Dinbych a Chroesoswallt, a daliodd y swydd hon tra bu byw. Yr oedd yn gerddor da. Bu ganddo ran amlwg yn sefydlu Cymdeithas Gerddorol Môn, ac ef oedd arweinydd y canu yng nghyfarfod cyntaf y gymdeithas yn 1835. Enillodd yn eisteddfod Llifon ar gyfansoddi anthem. Yn 1843 dug allan Y Perorydd Cysegredig, ac, yn 1851, Yr Athraw Cerddorol, llyfr bychan ar elfennau cerddoriaeth a hyfforddiadau i'r llais. Bu farw 13 Hydref 1881.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.