HUGHES, DAVID EDWARD (1829 - 1900), physegwr a dyfeisydd

Enw: David Edward Hughes
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1900
Priod: Anna Merrill Hughes (née Chadbourne)
Rhiant: David Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: physegwr a dyfeisydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Edwin Augustine Owen

Ganwyd 18 Mehefin 1829 yn Llundain (myn rhai awdurdodau iddo gael ei eni yn Green y Ddwyryd, gerllaw Corwen), mab David Hughes, gynt o'r Bala ac wedi hynny o Lundain. Ymfudodd gyda'i deulu i Virginia, U.D.A. yn 1840, a chafodd ei addysg yn S. Joseph's College, Bardstown, Kentucky. Pan oedd yn 19 dewiswyd ef yn broffesor cerddoriaeth yn y coleg hwnnw a'r flwyddyn ddilynol cafodd gadair gwyddoniaeth naturiol yno hefyd. Dyfeisiodd, ac yntau ond 21 oed, delegraff printio ag iddo nodweddion creadigol arbennig iawn. Yn 1854 ymneilltuodd o'i swyddi addysgol er mwyn ei roddi ei hun yn llwyr i'w ddyfais. Cwplaodd honno yn 1855 a chafodd batent arni; y flwyddyn ddilynol mabwysiadwyd hi gan yr American Telegraph Company. Ni chafodd y peiriant ddim derbyniad cymeradwy pan ddaeth y dyfeisydd ag ef i Loegr yn 1857, ac felly aeth Hughes ag ef i Ffrainc, lle y prynwyd ef yn 1860 gan y Llywodraeth a dechreuwyd ei ddefnyddio ar leiniau'r wlad honno. Ymhen ychydig flynyddoedd yr oedd yn cael ei ddefnyddio dros gyfandir Ewrop. Daeth y peiriant â Hughes i enwogrwydd a gosododd sylfaen ei gyfoeth. Ymsefydlodd yn Llundain yn 1875 eithr ni pheidiodd byth a bod yn ddinesydd Americanaidd. Yn 1878 dug allan ficroffôn - peiriant bychan a barodd syndod mawr ar y pryd. Gyda chymorth ychydig o hoelion rhydlyd gallai Hughes beri i gynulleidfa fawr glywed swn cerddediad pryfetyn. Bu'n gweithio, gyda llwyddiant, ar amryw bynciau eraill, ac yn 1880 gwnaethpwyd ef yn F.R.S.

Am flynyddoedd lawer tua diwedd ei oes bu Hughes yn gwneuthur arbrofion gyda'r hyn a elwir yn 'inductive circuits,' a heb wybod hynny, achosodd donnau trydanfagnetol y gallai eu darganfod gyda chymorth ei 'coherer' a hynny hyd bellter o ddaucanllath o leiaf. Gallai gynhyrchu offer neu beiriannau teimladwy cywrain allan o fân bethau fel hoelion cyffredin, blychau pils, a chwyr selio. Dywedid amdano ei fod 'yn meddwl gyda'i ddwylo.' Bu farw 22 Ionawr 1900 yn Llundain.

Brawd iddo oedd Joseph Tudor Hughes.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.