HUGHES, JOSEPH TUDOR (‘Blegwryd’; 1827 - 1841), bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc.;
Enw: Joseph Tudor Hughes
Ffugenw: Blegwryd
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1841
Rhiant: David Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bachgen â'i hynododd ei hun yn ei blentyndod fel telynor, etc.;
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert (Bob) Owen
Ganwyd 27 Hydref 1827, yn y Bala (?). Dywedir iddo ddangos gallu cerddorol a oedd yn wyrthiol cyn ei fod yn dair oed; yn cyrraedd ei wyth oed rhoesid y ffugenw ‘Blegwryd’ iddo yn eisteddfod Llannerch-y-medd, 9 Mehefin 1835. Pan oedd tua 12 oed cyhoeddwyd British Melodies, yn cynnwys alawon gyda threfniant ganddo ar gyfer y delyn a'r piano. Aeth ei dad ag ef, gyda brodyr eraill, i U.D.A. (1840), gan gynnal cyngherddau yn y White House (Washington), New York, Baltimore, Philadelphia, etc. Yr oedd ‘Blegwryd’ eisoes, cyn iddo adael Prydain, wedi peri syndod mawr i luoedd o bobl — rhai aelodau o'r teulu brenhinol yn eu plith — a'i gwelodd ac a'i clywodd yn perfformio. Collodd ei fywyd trwy foddi yn afon Hudson ar 12 Mai 1841. Brawd iddo oedd David E. Hughes, dyfeisydd.
Awdur
- Robert (Bob) Owen, (1885 - 1962), Croesor
Ffynonellau
-
Y Cyfaill cylchgrawn misol y Presbyteriaid Cymreig yn America (Utica), Hydref 1841, Medi 1842 — ceir darlun o ‘Blegwryd’ a'i frodyr ar glawr rhifyn Tachwedd 1840;
-
The Cambrian (Abertawe), 24 Ionawr 1835;
-
Cyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Gadeiriol Môn, a gynhaliwyd yn Llanerchymedd, Awst 20fed, 1869 yn nghyd a rhestr o'r tanysgrifiadau a'r cyfrifon (Llanerchymedd 1870), 1835;
-
Y Gwladgarwr, 1835, 201;
-
Y Cerddor, Awst 1898;
-
Y Drych (Utica), 6 Tachwedd 1924;
-
Y Seren (Bala), 22 Awst 1931 - 10 Hydref 1931.
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Joseph Tudor Hughes
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733737
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/