Cywiriadau

HUGHES, GRIFFITH (1707 -?), naturiaethwr

Enw: Griffith Hughes
Dyddiad geni: 1707
Rhiant: Bridget Hughes
Rhiant: Edward Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: naturiaethwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd ym mhlwyf Towyn, Sir Feirionnydd (fe'i bedyddiwyd yn eglwys Towyn 29 Ebrill 1707), mab Edward a Bridget Hughes. Ymaelododd yng Ngholeg S. Ioan, Rhydychen, 16 Mai 1729 (yn 22 oed), graddiodd, a rhoddwyd iddo, ym mis Mai 1748, radd M.A. - yr oedd yn un o'r offeiriadon yn New England y rhoddwyd graddau 'er anrhydedd' iddynt yn y cyfnod hwnnw. Fe'i dewiswyd gan yr S.P.G. ('Society for the Propagation of the Gospel') yn 1732 yn genhadwr yn Pennsylvania. Yn ddiweddarach fe'i dewiswyd yn rheithor S. Lucy's yn Barbados; bu hefyd yn helpu'r S.P.G. gyda'u stadau yn Barbados ac mewn cyfeiriadau eraill. Eithr fel naturiaethwr ac awdur The Natural History of Barbados (Llundain, 1750) y cofir am Griffith Hughes erbyn hyn; y mae'r gwaith llafurfawr hwn yn parhau i gael ei ddarllen. Etholwyd yr awdur yn F.R.S., 1748.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

HUGHES, GRIFFITH (1707 - 1758?), clerigwr a naturiaethwr

Ganwyd 1707 (bedyddiwyd 29 Ebrill), yn Nhywyn, Meirionnydd, yn fab i Edward a Bridget Hughes; ymaelododd yn Rhydychen, o goleg S. Ieuan, ym Mai 1729, ac urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yn esgobaeth Llundain, yn 1732. Yn 1732 hefyd, cymeradwywyd ef i'r S.P.G. fel darpargenhadwr dan Eglwys Loegr ym Mhennsylfania. Dechreuodd ar ei waith yn S. Davids, Radnor (Pa.), a oedd hefyd yn ganolfan ei bregethu teithiol. Anfonodd adroddiad i'r S.P.G. yn 1734, a theirgwaith yn 1735, yn adrodd ei lwyddiant ymhlith y Crynwyr Cymreig, ac yn galw am lyfrau Cymraeg. Yr oedd ef ei hunan, yn 1735, wedi cyhoeddi adargr. (gydag ychwanegiadau) o Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf, gwaith John Morgan (1688? - 1734?) brawd i ficer y Tywyn - argraffwyd y llyfr gan Andrew Bradford yn Philadelphia, a dyma'r pedwerydd llyfr Cymraeg (nid y trydydd) a argraffwyd yn America.

Ond yn 1736, clywir Hughes yn cwyno bod ei iechyd yn gwaethygu dan bwysau ei deithiau meithion, a thrafferthion eraill. Ar y llaw arall, cwyna un o'i gynulleidfaoedd yn y maes ' he seldom comes near us ', a geilw am genhadwr arall ' with much more solidity and conduct '. Ac ym mis Medi 1736, symudwyd Hughes i reithoriaeth S. Lucy yn Barbados. Ond yno drachefn daw sôn am ' some difference of opinion with his congregation '; tybed bod ei ddiddordebau naturiaethol wedi cynyddu ar draul ei waith fel person plwyf ? Yn 1743, a thrachefn yn 1748, croesodd i Loegr. Yn 1748, graddiodd yn B.A., ac yn M.A., ac etholwyd ef (9 Mehefin) yn F.R.S. Er iddo mewn enw ddal at ei reithoriaeth hyd 1750, y mae'n amheus a ddychwelodd i Barbados. Yn sicr, yn Llundain yr oedd yn 1750 pan gyhoeddodd ei Natural History of Barbados, gwaith a ganmolwyd gan Linnaeus, ond a ddisgrifir yn angharedig gan wyddonydd Americanaidd fel ' one of the scientific frauds of the age '. Ni wyddys ddim am yrfa ddiweddarach Hughes; ond nid ymddengys ei enw ar dystysgrif a arwyddwyd gan glerigwyr yr ynys ym Mai 1754, nac ar y rhestrau sydd gennym o glerigwyr America yn y blynyddoedd 1745-81. Diflanna ei enw o restr Cymrodyr y 'Royal Society ' ar ôl 1758; efallai iddo farw yn y flwyddyn honno.

Awdur

  • Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)

    Ffynonellau

  • Foster, Alumni Oxonienses: the members of the University of Oxford
  • y rhestr o glerigwyr S. Davids, Radnor (trwy law yr Athro A. H. Dodd)
  • Journal of the Historical Society of the Church in Wales, iv, 30-2 (gan J. A. Thomas)
  • John Clement, 'Griffith Hughes', yn Historical Magazine of the Protestant Episcopal Church [of U.S.A.], Mehefin 1948, 151-63
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, iii; 19-22
  • F. J. Dallett 'Griffith Hughes Dissected', yn The Journal of the Barbados Museum and Historical Society, Tachwedd 1955

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.