Ganwyd yn 1688 neu 1689 - yr oedd yn 16 pan ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 16 Mawrth 1704/5. Ei dad oedd Edward Morgan(s), fab John Morgans, ' gent. ', o Lan-ym-Mawddwy), curad parhaol Llangelynnin, Meirionnydd, o 1672 hyd 1701; a'i frawd oedd Edward Morgan(s), a ymaelododd yn Rhydychen ar yr un dydd ag yntau, ond a oedd ddwyflwydd yn hŷn. Bu Edward Morgan yn ficer Tywyn, Meirionnydd, o 1717 hyd 1726, ac wedyn yn rheithor Llanaber hyd ei farw ar 18 Mehefin 1749 yn 63 oed; ymddiddorai mewn llenyddiaeth Gymraeg, ac yr oedd ganddo hen lawysgrifau - sonia Lewis Morris yn 1747 am un ohonynt (Cambrian Register, ii, 540). Graddiodd John Morgan, fel ei frawd, yn 1708; bu'n gurad Llandegfan yn 1709-10 ac wedyn yn gurad Llanfyllin, plwyf yr ymhoffodd ynddo. Yn 1713 cafodd guradiaeth Matchin(g) yn Essex, ac ymgorfforodd (yn M.A.) ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn aelod o 'Catherine Hall' (Coleg S. Catherine's, heddiw). Pregethodd bregeth Ŵyl Ddewi Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain yn 1728; yn yr un flwyddyn y mae'n dechrau arwyddo coflyfrau ei eglwys fel 'ficer' - gelwir Matching weithiau'n rheithoraeth, ond ficeriaeth ydyw heddiw. Ceir ambell gofnod o fân welliannau a wnaeth yno: plannu ywen (1728), cyweirio'r clychau (1730), gwastatáu llwybrau'r fynwent (1732), etc. Bu farw ym Matching; claddwyd ef yno ar ' 2 Mawrth 1733, efallai mai 1734 yn ôl ein dull ni. Yr oedd John Morgan yn ysgolhaig Cymraeg da; heblaw brydyddiaeth a gasglwyd ganddo (a pheth a gyfansoddwyd ganddo) yn Llanstephan MS 15 , yn Ll.G.C., y mae casgliad o ddiarhebion Cymraeg (1714) a wnaethpwyd ganddo yn Llanstephan MS 20 . Yr oedd yn gyfaill i Moses Williams a bu'n gohebu ag ef ynghylch bwriad Williams i helaethu geiriadur John Davies o Fallwyd; argraffwyd un o'i lythyrau yn Cambrian Register, ii, 536 - yn hwn (13 Mai 1714), ar ben cyfarwyddiadau i Moses Williams sut i fynd o gwmpas y gwaith, y mae ganddo sylwadau bachog ar 'ddiogi' cymrodyr Coleg Iesu, ac ar ffolineb ysgolion elusennol Saesneg yng Nghymru Gymraeg. Daeth llythyrau John Morgan at Moses Williams wedyn i law'r mathemategwr William Jones, ac felly y gwelodd Richard Morris hwy a'u copïo (Morris Letters, i, 97, 106) - heddiw y maent yn Ll.G.C. (Add. MS. 17); cafodd Richard hefyd gopi John Morgan o eiriadur John Davies gyda nodiadau Morgan arno (Morris Letters, i, 180). Odid nad John Morgan a gyhoeddodd (1716) gyfieithiad dienw o ddarnau gan Tertwlian a Cyprian; priodolir hwn iddo gan Moses Williams yn ei Repertorium (14, 24, a 31 yn adargraffiad 1912 Cymdeithas Lyfryddol Cymru). Nid yw'n eglur beth a olygai William Morris (Morris Letters, i, 115) wrth yr 'abridgement' y dywedid ei fod yn waith ' Siôn Morgan '; efallai mai'r Egwyddorion o Sylfeini'r Grefydd Gristnogol wedi eu crynhoi allan o'r Catecism - os felly, dyma enghraifft gynnar o'r cymysgu mynych rhwng John Morgan, Matching, a'i gyfenw John Morgan o Aberconwy. Oblegid yr unig lyfr arall y gwyddom iddo'i gyhoeddi yw ei glasur gwych, Myfyrdodau Bucheddol ar y Pedwar Peth Diweddaf, 1714 (dyddiwyd ei ragymadrodd ar 6 Mai), gyda chyflwyniad i'w hen blwyfolion yn Llanfyllin, ac englynion marwnad i Edward Lhuyd. Bu hwn yn llyfr haeddiannol boblogaidd - y mae pump o argraffiadau diweddarach ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Nid at Repertorium Moses Williams, y mae'r cyfeiriad, ond at ei Restr (adargr. 1912). Gweler bellach ysgrif A. D. Carr, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd Cyf. V. Rhan II, 1966.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.