MORGAN, JOHN (1662 - 1701), clerigwr ac awdur

Enw: John Morgan
Dyddiad geni: 1662
Dyddiad marw: 1701
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Thomas Jones

Ganwyd yn sir Feirionnydd yn 1662. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1684, ac yn offeiriad yn 1685; bu'n gurad Llanllechid ac Aber, Sir Gaernarfon, 1685 hyd 1693(?). Yna, efrydydd yn Rhydychen, hyd 1697 yn ôl pob tebyg, pan wnaed ef yn ficer Aberconwy. (Nid yr un â John Morgan, ficer Matchin (1688 - 1734?), ei gyfoesydd.) Yng Nghonwy ysgrifennodd ei Bloeddnad Ofnadwy yr Utcorn Diweddaf, a gyhoeddwyd (wedi ei farw) yn 1704. Ceir copi o'r traethawd hwn a thraethawd arall tebyg iddo, sef Ystyriaethau ar y Chwe peth diweddaf, ynghyd â nifer o ganeuon yr awdur - y cwbl yn ei lawysgrifen ef ei hun - mewn math o chap-book yn dwyn yr enw ' Llyfr John Morgan ' sy'n awr yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor (Bangor MS. 421). Ysgrifennai ryddiaith ragorol, ond cyffredin yw ei farddoniaeth. Bu farw 14 Medi 1701.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.