Ganwyd yn Quakers Yard, Sir Forgannwg, yn fab i Daniel Hughes, crydd. Ychydig o ysgol a gafodd. Yr oedd yn gweithio yng nglofa Llancaiach, Gelligaer, pan oedd yn 9 oed. Yn ddiweddarach, treuliodd chwe mis yn yr ysgol a gedwid gan Thomas Evans yn y Carpenters Arms. Ysgrifennai farddoniaeth a storïau byrion i gylchgronau a chyfnodolion Cymraeg, ond yn 1881 y daeth i fri pan enillodd ei nofel, Rhys Trefor, y wobr yn eisteddfod genedlaethol Merthyr. Yn 1881 cyhoeddwyd ei nofel boblogaidd, Y Ferch o Gefn Ydfa , ac fe'i dilynwyd gan Y Ferch o'r Scer, 1892, Gwenhwyfar, Y Llofruddiaeth yng Nghoed y Gelli, 1893, ac O'r Cryd i'r Amdo, 1903. Ymddiddorai yn hanes a llên gwerin ei ardal, ac fe geir dau gyfraniad ganddo yn Celtic Folklore (Syr John Rhys). Bu'n gweithio am flynyddoedd yng nglofa'r Deep Navigation, Treharris, ond am y 18 mlynedd olaf o'i oes bu'n gwbl ddall. Bu'n ysgrifennydd lleol i Undeb y Glowyr ac yn ysgrifennydd llyfrgell y gweithwyr yn Nhreharris. Bu farw 3 Rhagfyr 1928, a'i gladdu ym mynwent Llanfabon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.