Yn ôl copi John Hughes o lyfr bedyddiadau Capel Uchaf Pontrobert (yng nghasgliad llawysgrifau D. Teifigar Davies yn Ll.G.C.) ymddengys mai trydydd plentyn (a thrydedd ferch) y Parch. John Hughes (1775 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert a Ruth (Evans) ei briod oedd Jane Hughes, ac iddi gael ei geni ar 25 Mehefin a'i bedyddio ar 2 Gorffennaf 1811 gan Evan Griffiths, Meifod, a oedd newydd ei ordeinio ym Mehefin 1811 yn y Bala. Bu farw ym Mhorthmadog, 26 Ebrill 1878.
Dengys ei gweithiau cyhoeddedig ei bod yn weithgar yn cyfansoddi llyfrau o 1846 hyd 1877. Emynau a barddoniaeth grefyddol arall ydyw prif gynnwys ei gweithiau. Er ei bod yn amlwg bod Jane Hughes yn meddu ar deimladau wir grefyddol, nid oes ond ychydig o'i hemynau y gellir dweud amdanynt eu bod yn gyfansoddiadau llwyddianus. Y mae y rhan fwyaf ohonynt mewn mesur sydd yn rhy hir a thrwm i fod yn addas at ganu cynulleidfaol. Ysgrifennodd tua 15 o weithiau - llyfrynnau bychain 16mo o ryw 20 tudalen yr un ar gyfartal. Y prif rai, efallai, ydyw Llyfr Hymnau (Caerfyrddin, 1846), Galargan am y diweddar Barch. Henry Rees, Liverpool (Caerfyrddin, 1869), Yr Epha lawn o ymborth ysprydol i bererinion Seion (Caernarfon, 1877), Telyn y Cristion (Caernarfon, 1877), Penillion ar enwau a swyddau Iesu Grist (Caerfyrddin, d.d.), a Cwyn a chysur y credadyn (Pontfaen, 1889).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.