HUGHES, JOHN (1814 - 1889), peiriannydd ac arloeswr gweithfeydd yn Rwsia

Enw: John Hughes
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1889
Plentyn: Arthur Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peiriannydd ac arloeswr gweithfeydd yn Rwsia
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Peirianneg, Adeiladu, Pensaerniaeth Forwrol ac Arolygu Tir
Awdur: Annie Gwenllian Jones

Ganwyd ym Merthyr Tydfil. Cafodd ei hyfforddiant cynnar yng ngweithfeydd haearn Cyfarthfa. Wedi derbyn profiad pellach yng ngweithfeydd Ebbw Vale a Chasnewydd penodwyd ef yn brif reolwr gweithfeydd peiriannol dociau Millwall, Llundain. Yno enillodd enw am ddarganfod gwell dulliau o gynhyrchu dur, enw a gyrhaeddodd mor bell â Rwsia. Yr oedd angen rheilffyrdd gan lywodraeth y Czar, ac yr oedd ei diwydiannau heb ei datblygu; rhaid oedd i'r wlad ddwyn i mewn ddur a haearn o ardaloedd Merthyr a Dowlais ar draul enfawr. Er mwyn arbed hyn penderfynodd ddatblygu ei diwydiannau ei hun, a gwahoddwyd John Hughes i sefydlu gweithfeydd yn Rwsia.

Caniatawyd iddo ddewis unrhyw safle addas, a thramwyodd y wlad o ben bwygilydd. O'r diwedd penderfynodd sefydlu yn nyffryn eang y Donetz mewn lle unig ar y Steppes, ond heb fod ymhell o fwngloddiau haearn pwysig Krivirog a phorthladd Taganrog.

Ffurfiodd John Hughes gwmni newydd Rwsia yn 1869, ac mewn ychydig flynyddoedd adeiladwyd tref fawr i'r gweithwyr, a galwyd hi Hughesoffka ar ôl ei enw. Cymhellodd gryn lawer o weithwyr haearn o Ferthyr, Dowlais, Rhymni, a Middlesborough i ddod gydag ef. Llwyddodd y gweithfeydd yn fawr, a daeth yn ganolfan ardal ddiwydiannol enfawr dyffryn y Don.

Bu John Hughes farw yn 1889 a dygwyd ymlaen ei waith gan ei bedwar mab, gydag Arthur, ei ail fab, yn goruchwylio'r gweithfeydd yn Hughesoffka. Diddorol hwyrach fyddai dweud i Arthur Hughes gael ei briodi, ag Augusta James, Llanover, gan y bardd-bregethwr ' Islwyn.'

Yn 1917 cymerodd y llywodraeth Sovietaidd feddiant o gwimnïau diwydiannol, ac felly daeth y Cwmni Newydd Rwsia i ben, ac yn ddiweddarach newidiwyd enw Hughesoffka i Stalino.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.