HUGHES, THOMAS JOHN ('Adfyfr '; 1853 - 1927), newyddiadurwr

Enw: Thomas John Hughes
Ffugenw: Adfyfr
Dyddiad geni: 1853
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd ym Mhenybont-ar-Ogwr, 1853, mab y Parch. Thomas Hughes o bentref Meisgyn, Morgannwg. Daeth yn newyddiadurwr ac yn gynrychiolydd nifer o bapurau Saesneg dyddiol yng Nghymru. Ysgrifennodd ar ustusiaid yng Nghymru a landlordiaeth yng Nghymru, ac ailgyhoeddwyd rhai o'i ysgrifau gan Ffederasiwn Genedlaethol Rhyddfrydwyr Cymru. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd personol i Alfred Thomas, barwn 1af Pontypridd, ac efe oedd golygydd cyntaf Cymru Fydd. Trwy ei waith fel cofnodydd llaw-fer daeth i gysylltiad â llawer o weithgareddau yn Neheudir Cymru, ac ar ôl pasio'r Ddeddf Fethdaliad, 1894, bu'n gofnodydd llaw-fer swyddogol i'r llys ym Mhontypridd. Am rai blynyddoedd bu'n un o is-olygyddion y South Wales News ac yn gynrychiolydd lleol i'r papur hwnnw. Bu iddo ef a'i wraig chwe mab a chwe merch. Bu farw ym Mhontypridd, 24 Hydref 1927, a'i gladdu ym mynwent Glyntaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.